Cwestiynau Cyffredin

Q. Ble mae swyddi’r Awdurdod yn cael eu hysbysebu?

A. Mae’r Awdurdod yn hysbysebu pob swydd allanol drwy wefan yr Awdurdod, y Wasg leol, genedlaethol ac arbenigol ynghyd ag amrywiaeth eang o wefannau a chyfnodolion arbenigol.

Q. Sut ydw i’n gwybod os ydw i’n gymwys am swydd arbennig?

A. Mae ‘Pecyn Swydd’ yn cael ei gynhyrchu gyda phob swydd sy’n cael ei hysbysebu ac mae hwn yn cynnwys ‘Manyleb Person’ sy’n berthnasol i’r swydd. Mae’r ‘Manyleb Person’ yn manylu’r holl anghenion sy’n cael eu hystyried yn hanfodol er mwyn gwneud y swydd. Mae’n rhaid i chi ddangos sut rydych chi’n bodloni pob gofyniad neu byddwch chi’n lleihau’r siawns o gael eich ystyried am gyfweliad.

Q. Rwyf i wedi cyflwyno CV cynhwysfawr. Ydw i angen llenwi Ffurflen Gais hefyd? 

A. Mae’r Awdurdod yn gofyn i chi gwblhau Ffurflen Gais. Mae hyn yn rhoi gwybodaeth i ni am ymgeiswyr mewn ffordd gyson sydd o gymorth yn ystod y broses o greu rhestr fer a chyfweld. Yn bwysicach fyth mae’n galluogi ni i fodloni ein rhwymedigaethau statudol i fonitro ac adrodd ar ryw, tarddiad ethnig, ac ati, yr ymgeiswyr. 

Q. Ydy’r Awdurdod yn derbyn CVs ar hap?

A. Yn anffodus, oherwydd cyfyngiadau adnoddau dydy’r Awdurdod ddim yn gallu croes-wirio pob CV ag unrhyw swyddi gwag sy’n codi. Felly, byddem yn argymell yn gryf eich bod chi’n ymweld â’n gwefan yn rheolaidd ac yn dilyn y drefn ymgeisio ar gyfer y rolau sydd o ddiddordeb i chi.


Q. Pryd fydda i yn gwybod canlyniad fy Nghais? 

A. Fel arfer mae ymgeiswyr yn cael eu gwahodd am gyfweliad o fewn pythefnos i’r dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau. Os nad ydych chi wedi clywed gennym ni erbyn y dyddiad hwnnw, mae’n debyg eich bod yn aflwyddiannus ar yr achlysur hwn.

Q. Oes modd i mi hawlio treuliau cyfweliad?

A. Bydd ffurflen hawlio treuliau yn cael ei hanfon i chi ar gais.