Craffu

Beth yw Craffu?

Mae’r Ganolfan Craffu Cyhoeddus yn diffinio craffu fel:

“…y gweithgaredd gan sefydliad neu swyddfa sydd wedi’u hethol neu eu dewis yn archwilio a monitro pob gweithgaredd neu rai o weithgareddau corff sector cyhoeddus gyda’r nod o wella safon gwasanaethau cyhoeddus.”

Gweithiodd Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac Arfordir Penfro gyda’i gilydd i ddatblygu’r broses graffu, a ariannwyd drwy grant gan Lywodraeth Cymru. Mae craffu yn gallu bod yn her mewn sefydliad sydd heb weithrediaeth (grŵp penderfynu ar wahân) ond rydym wedi cynnwys arbenigwyr allanol, y cyhoedd a swyddogion adrannau eraill y Parc i roi gwrthrychedd.

Beth ydym ni wedi craffu arno hyd yn hyn?

Cynhaliwyd dau adolygiad peilot fel rhan o’r prosiect craffu, gallwch weld y rheini ac adroddiadau terfynol dilynol yma:

Adroddiad Craffu Cronfa Datblygu Cynaliadwy

Adroddiad Craffu Hawliau Tramwy

Atodiadau Adroddiad Craffu Hawliau Tramwy

Adroddiad Craffu – Lleihau Difrod i Amgylchedd y Parc

Cymunedau – Ysbrydoli a Buddion

Cyngor Cynllunio Cyn Ymgeisio

Adroddiad Craffu Archaeoleg

Mae’r adroddiad prosiect terfynol ar gael hefyd. Cysylltwch â’r swyddogion isod os ydych am weld unrhyw un o’r atodiadau.

Bydd Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn defnyddio’r broses graffu i wneud astudiaethau manwl ar agweddau o’i waith, gan gynnwys aelodau, swyddogion, tystion arbenigol, sefydliadau eraill ac aelodau o’r cyhoedd. Bydd yr astudiaethau hyn yn cael eu defnyddio i wella gwasanaethau, llunio polisi yn y dyfodol, ac amlygu gwaith yr Awdurdod. Mae’r Awdurdod wedi cymeradwyo Polisi Craffu fel fframwaith ar gyfer ei waith craffu yn y dyfodol ac mae siart llif yn egluro’r broses.

Wrth wneud hyn, bydd yr Awdurdod yn defnyddio pedair egwyddor craffu ac yn eu gweithredu:

  • Darparu her cyfaill beirniadol i gyflawni gwasanaethau
  • Ystyried barn a phryderon y cyhoedd a’u cymunedau
  • Gweithredir gan aelodau a swyddogion â meddylfryd annibynol sy’n arwain a meddu ar y broses craffu
  • Cymell gwella cyflawni gwasanaethau

Beth fydd yn cael ei graffu arno?

Bob blwyddyn mae’n rhaid i’r Awdurdod gyhoeddi ei amcanion gwella, sy’n canolbwyntio ar wahanol agweddau o’i waith y mae’n teimlo sy’n hynod o bwysig. Mae’r Awdurdod yn cael ei archwilio ar y rhain gan Swyddfa Archwilio Cymru sy’n adrodd ar y cynnydd mewn Adroddiad Gwella Blynyddol. Gallwch weld yr adroddiad diweddaraf yma

Mae’r Awdurdod wedi penderfynu defnyddio’r broses graffu i edrych yn fanwl ar ddau o’i amcanion gwella bob blwyddyn. Un o’r rhain bydd adolygiad yn edrych nôl ar amcan o’r flwyddyn flaenorol a bydd y llall yn edrych ar amcan o’r flwyddyn hon. Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2012-13 cafodd y ddau amcan hyn eu dewis:

1) Lleihau difrod i amgylchedd y Parc, a’r dystiolaeth ar gyfer hyn bydd:

  • Cyflawni prosiectau ymarferol allweddol sy’n lleddfu effeithiau negyddol.
  • Sefydlu data gwaelodlin er mwyn deall sefyllfa monitro’r Parc. (Bydd hyn yn arwain at ddealltwriaeth fwy trylwyr a gwyddonol o gyflwr monitro amgylchedd y Parc ar hyn o bryd).

2) Cymunedau yn adnabod buddion eu milltir sgwâr, ac yn cael eu hysbrydoli ganddynt.

Gan ddechrau ym mis Ionawr eleni, dechreuon ni ar y broses o gyhoeddi rhestr o’n hamcanion gwella ar y tudalennau hyn a gofyn i’r cyhoedd ‘bleidleisio’ ar ba ddau yr oedden nhw’n teimlo y dylai’r Awdurdod graffu arnynt y flwyddyn honno. Bydd Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn ystyried pob safbwynt wrth wneud eu penderfyniad terfynol ar y ddau bwnc.

Sut bydd y Craffu yn cael ei wneud?

Bydd yr Awdurdod yn penodi Panel Craffu ar gyfer pob adolygiad craffu a fydd yn cynnwys:

Hyd at chwe aelod Awdurdod y Parc Cenedlaethol (Pwy yw’r Aelodau?)

  • Swyddog o adran wahanol i’r un sy’n cael ei chraffu arni
  • Cynrychiolydd gwahanol i roi gwrthrychedd – gall fod yn gynrychiolydd o sefydliad sy’n bartner, Parc Cenedlaethol arall, arbenigwr yn y pwnc sy’n cael ei graffu arno, neu aelod o’r cyhoedd

Bydd y Panel yn cynllunio’r adolygiad, gweld pa wybodaeth sydd gan yr Awdurdod eisoes, a nodi pa dystiolaeth ychwanegol sydd ei hangen arnynt. Byddant yn gosod cwestiynau allweddol ac yn ceisio eu hateb drwy gasglu gwybodaeth drwy un neu fwy o’r dulliau hyn:

Ymchwilio i adroddiadau, data a gwybodaeth arall sy’n bodoli eisoes

  • Cyfweld swyddogion
  • Cyfweliadau ar y ffôn neu wyneb yn wyneb â’r cyhoedd
  • Cyfweliadau ar y ffôn neu wyneb yn wyneb â thystion arbenigol
  • Holiaduron
  • Gwrandawiadau
  • Grwpiau Ffocws
  • Defnyddio’r wefan i wahodd pobl i wneud sylwadau
  • Cyfarfodydd gyda grwpiau neu fforymau sy’n bodoli eisoes (ee. Cynghorau Tref a Chymunedol, Fforymau Ymgynghori Ardal)
  • Ymweliadau â safle

Wedyn, bydd y panel yn ysgrifennu adroddiad ac yn gwneud argymhellion i’r Pwyllgor Archwilio a ChraffuYna, caiff yr argymhellion eu cyflwyno i’r Awdurdod llawn a bydd cynllun gweithredu yn cael ei lunio. Bydd y Pwyllgor Archwilio a Chraffu yn monitro’r cynllun gweithredu hwn a bydd pob adroddiad i’w weld drwy’r Calendr Pwyllgorau lle mae pob agenda ar gael. Byddwn hefyd yn cyhoeddi’r rhain ar y tudalennau craffu ar y wefan.

Sut galla i gymryd rhan?

Ein bwriad ydy diweddaru’r tudalennau hyn gyda chynnydd am yr adolygiadau craffu sydd ar waith gyda gwybodaeth ar sut gallwch chi gymryd rhan. Mae hyn yn debygol o fod drwy un o’r ffyrdd canlynol:

  • Ymateb i holiadur yn y wasg neu ar ein gwefan
  • Drwy broses ymgynghori a fydd yn cael ei chynnal ar y cyd â chynghorau tref a chymunedol neu grwpiau cymunedol eraill
  • Derbyn gwahoddiad i fod yn dyst arbenigol neu’n rhan o grŵp ffocws neu wrandawiad os oes gennych chi arbenigedd yn y maes dan sylw
  • Rhoi gwybod i ni os oes gennych chi ddiddordeb mewn cymryd rhan mewn grŵp ffocws ar yr ardal o wasanaeth
  • Rhoi gwybod i ni beth rydych chi’n ei feddwl am y maes dan sylw drwy e-bost, galwad ffôn neu ar bapur
  • Drwy gysylltu â’r Swyddog Craffu, Lora Davies, dros y ffôn 01874 624437 neu anfon e-bost at Stephanie Davies (Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd) ar 01874 620400 neu stephanie.davies@breconbeacons.org

Os bydd yn rhaid i chi fynychu gwrandawiad craffu, rydym wedi paratoi canllawiau fel eich bod yn gwybod beth i’w ddisgwyl.

Cylchlythyrau

Rydym yn cyhoeddi Cylchlythyrau rheolaidd yn sôn am y newyddion diweddaraf a datblygiadau craffu ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a gallwch ddod o hyd i’r rhifyn diweddaraf, sef mis Hydref 2013, yma.