Lleisio barn am ein camau craffu nesaf

Mae polisi craffu yr Awdurdod yn dangos sut mae ein proses graffu’n gweithio. Bydd aelodau yn dewis un o’r amcanion gwella yn 2013-14
er mwyn adolygu’r cynnydd a gwneud argymhellion ar gyfer gwelliannau pellach. I gofrestru eich pleidlais, ewch i’n ffurflen bleidleisio.

Yn y ddau adolygiad diwethaf ar y polisi craffu, gwnaethom ofyn i’r cyhoedd ‘bleidleisio’ ar y meysydd y dylai’r Awdurdod graffu arnyn nhw nesaf. Bydd yr Awdurdod yn rhoi sylw i hyn wrth iddynt ddod i benderfyniad ar 7 Chwefror 2014 (gallwch wylio’r cyfarfod hwn yn fyw drwy we-ddarllediad neu chwiliwch drwy’r archif: yma).

Mae croeso i aelodau o’r cyhoedd, arbenigwyr yn y maes, a chynghorwyr tref a chymuned gysylltu os hoffent eistedd ar y panel craffu nesaf. Rôl gwbl wirfoddol yw hon ac ni allwn dalu treuliau, ond mae’n gyfle gwych i weithio gyda’n haelodau a swyddogion gan edrych yn fanwl ar faes gwaith penodol a llunio argymhellion ar gyfer gwella’r gwasanaeth a ddarperir.  Rydym yn gwerthfawrogi’n fawr y cyfle i weithio gyda’r cyhoedd i gael barn wrthrychol ac annibynnol ychwanegol ar eich proses graffu. Os hoffech chi gyfrannu at hyn, cysylltwch â lora.davies@beacons-npa.gov.uk neu julia.gruffydd@beacons-npa.gov.uk.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu’r Awdurdod yn craffu ar agweddau o’r ddau amcan gwella hyn:

  • Bod yr Awdurdod yn darparu gwasanaeth cynllunio rhagorol (edrychodd y panel yn benodol ar y gwasanaeth cynghori cyn gwneud cais)
  • Bod amgylchedd hanesyddol a threftadaeth ddiwylliannol y Parc yn cael eu gwarchod, eu gwella a’u hyrwyddo (mae’r panel ar hyn o bryd yn edrych ar waith archaeolegol yr Awdurdod)

Bydd y maes craffu newydd yn cael ei ddewis o blith amcanion gwella 2013-14. I weld yr amcanion gwella hyn ac i bleidleisio, ewch i’n ffurflen bleidleisio.

Bwriwch eich pleidlais erbyn hanner nos Dydd Iau 6ed Chwefror fel bo’r Awdurdod yn gallu ystyried y canlyniadau yn ei gyfarfod y diwrnod canlynol.