Ceisiadau Ar-lein

Gallwch weld Ceisiadau Ar-lein drwy ein Gwasanaeth Mynediad Cyhoeddus.

Gallwch wneud y canlynol drwy’r gwasanaeth hwn:

  • Gweld ceisiadau presennol a’r dogfennau ategol
  • Gwneud sylwadau ar geisiadau presennol
  • Cadw y ceisiadau rydych chi wedi chwilio amdanynt ac anfon hysbysiadau e-bost
  • Tracio cynnydd ceisiadau presennol

Cyflwyno Ceisiadau Ar-lein drwy’r Porth Cynllunio (gallwch gyflwyno hyn yn y Gymraeg neu’r Saesneg).

Mae’r gwasanaeth hwn hefyd yn cynnig:

  • Cyngor a gwybodaeth gyffredinol am gynllunio
  • Canllawiau rheoliadau adeiladu
  • Canllawiau pellach ar wneud cais
  • Y gwasanaeth apeliadau ar-lein

Nid yw’r Porth Cynllunio yn rhan o Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Cysylltwch â’r Porth yn uniongyrchol os ydych chi’n cael anawsterau technegol neu os hoffech gael cyngor ar gyflwyno ceisiadau ar-lein.

Sylwadau trydydd partïon (oddi wrth aelodau’r cyhoedd)

Ni fydd enwau a sylwadau’n cael eu cyhoeddi ar y gofrestr ar lein.  Bydd sylwadau’n cael eu cofnodi ar lein ar ffurf ‘sylw’r cyhoedd – cefnogaeth’ neu ‘sylw’r cyhoedd – yn erbyn’ neu ‘sylw’r cyhoedd –niwtral’.

Mae copïau o holl sylwadau’r cyhoedd ar gael ar y ffeil cynllunio ar ffurf eu cyflwyno’n wreiddiol.  Bydd yr Awdurdod yn caniatáu i unrhyw aelod o’r cyhoedd archwilio (neu dderbyn copi) o’r ffeil wreiddiol.  Bydd unrhyw wybodaeth bersonol neu sy’n dangos pwy yw aelod o’r cyhoedd yn y dogfennau’n cael eu duo yn yr wybodaeth a fydd yn cael ei ddatgelu

Mae gan yr Awdurdod ddyletswydd pellach i ddatgelu gwybodaeth ar ôl derbyn cais o dan y Ddeddf Diogelu Data 2018, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2020 neu’r Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol 2004. Bydd unrhyw wybodaeth yn cael ei ddatgelu yn unol â’r cyfrifoldebau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth berthnasol.  Yn ymarferol, golyga hyn y bydd unrhyw wybodaeth bersonol ynghylch yr aelod o’r cyhoedd yn y dogfennau’n cael eu duo yn yr wybodaeth a fydd yn cael ei ddatgelu.  Mae gwybodaeth bersonol a fydd yn cael ei duo’n cynnwys:

  • enw;
  • cyfeiriad;
  • rhif ffôn
  • manylion unrhyw swydd neu deitl / cwmni (os yn berthnasol);
  • cyfeiriad e-bost, gan gynnwys unrhyw wybodaeth electronig arall (megis cyfeiriad IP);
  • unrhyw wybodaeth sy’n dangos yn amlwg pwy yw unigolyn (enghreifftiau o eiriau mewn cyd-destun cynllunio sy’n cynnwys pethau fel ‘fy nghymydog’ neu ‘ein ffens derfyn’).

Byddwn yn eich annog yn gryf i ystyried peidio â chynnwys gwybodaeth yn eich datganiad a fyddai’n galluogi trydydd parti i wybod pwy ydych chi (datganiadau megis ‘ein ffens derfyn’, ‘ein dreif gyffredin’ ayb).  Byddwn hefyd yn argymell y dylai eich datganiad fod ar wahân i unrhyw wybodaeth sy’n cynnwys eich manylion cyswllt neu wybodaeth bersonol arall.  Er enghraifft, drwy gynnwys eich sylwadau fel atodiad, gellir gwahanu eich sylwadau’n hawdd oddi wrth eich manylion cyswllt yn yr e-bost.

Dylai unrhyw aelod o’r cyhoedd gyfyngu sylwadau i faterion cynllunio’r cais.

Bydd Hysbysiadau Penderfyniadau Cynllunio, Adroddiadau dirprwyo a Phwyllgorau yn cael eu drafftio yn fath fodd fel na fydd gwybodaeth bersonol yn cael ei ddatgelu ac mai dim ond materion neu broblemau cynllunio a fydd yn cael eu cynnwys.

Sylwadau sy’n cael eu nodi fel ‘Cyfrinachol’

Nid yw’r Awdurdod yn gallu cadw sylwadau gan y cyhoedd ynghylch ceisiadau cynllunio’n gyfrinachol.  Os derbynnir sylwadau sydd wedi’u nodi fel rhai cyfrinachol, dywedir wrthych na ellir gwarantu cyfrinachedd a gofynnir i chi unai ail gyflwyno neu dynnu eich sylwadau’n ôl.  Bydd unrhyw wybodaeth bersonol yn cael ei dileu (ei duo) os bydd trydydd partïon yn gofyn am weld eich sylwadau, felly, dylech ystyried a yw eich sylwadau’n gyfrinachol mewn gwirionedd.  Mae’r cyhoedd yn gallu gweld ceisiadau am ganiatâd cynllunio ac, o dan rai amgylchiadau, mae’r sylwadau’n cael eu cyflwyno mewn man cyhoeddus. Bydd gan y swyddogion neu’r aelodau sy’n penderfynu ar geisiadau hawl i ystyried pob sylw a dderbynnir, ac i wybod hefyd ffynhonnell unrhyw sylw a phwy yw’r unigolyn sy’n ei gyflwyno.  Ni eillir gweithredu’r dyletswydd hwn yr un pryd a chadw cyfrinachedd unrhyw barti.

Sylwadau Dienw

Nid yw’r Awdurdod yn gallu derbyn sylwadau dienw gan y cyhoedd. Mae ffeiliau ceisiadau cynllunio’n gofnodion cyhoeddus.  Mae’n rhaid darparu enw a chyfeiriad i wneud yn siŵr fod yna linach glir at yr wybodaeth sydd gan yr Awdurdod ac y gellir ei olrhain i’r unigolion sydd wedi’i ei gyflwyno.  Ond mae datgelu gwybodaeth ac adnabyddiaeth bersonol yn cael ei reoli gan y rheolau a ddangosir uchod.

Cofiwch:

  • Dim ond ceisiadau cynllunio y mae’r Awdurdod yn ymgynghori yn eu cylch ar hyn o bryd y mae’r Gwasanaeth Mynediad Cyhoeddus yn ei ddangos.  Nid yw’n cynnwys llyfrgell gyfan o hanes cynllunio.
  • I chwilio am yr hanes cynllunio llawn, cysylltwch â Desg Gymorth y Gwasanaethau Cynllunio ar planning.enquiries@beacons-npa.gov.uk.
  • Nid yw’r system ar gael o 9pm tan yn gynnar yn y bore bob diwrnod gwaith oherwydd gofynion cynnal a chadw.
  • Ni ellir gweld ceisiadau nes eu bod wedi’u dilysu, gall hyn gymryd hyd at bum diwrnod gwaith ar ôl eu derbyn.
  • Bydd dogfennau ar lein ar gael fel arfer o fewn 48 awr o’u creu neu eu derbyn.