Blaenoriaethu Ceisiadau Cynllunio ar gyfer Prosiectau Ffilmio ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn croesawu prosiectau ffilmio yn y Parc Cenedlaethol. Fodd bynnag, mae’n bwysig i gwmnïau sydd am ffilmio o fewn ffiniau’r Parc gysylltu â’r Awdurdod mewn da bryd er mwyn sefydlu beth sy’n debygol o fod yn addas yn y Parc Cenedlaethol. Wedyn, gall yr Awdurdod helpu i bennu’r anghenion ar gyfer prosiect o’r fath, gan gynnwys a oes angen caniatâd cynllunio. Mewn rhai achosion, gall prosesu cais ar gyfer caniatâd cynllunio gael ei flaenoriaethu fel bod penderfyniad yn gallu cael ei wneud cyn gynted â phosib.

Nodyn Cyfarwyddyd – Blaenoriaethu Ceisiadau Cynllunio ar gyfer Prosiectau Ffilmio o fewn y Parc