Mae Datganiadau o Ddiddordeb ar gau ar hyn o bryd ar gyfer y flwyddyn gyntaf o gyllid. Byddwn yn cyhoeddi ein ffenestr gyllido nesaf ddechrau 2026.
Mae Ffermio Bro yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru a lansiwyd ar 1 Ebrill 2025 ac a fydd yn parhau hyd at fis Mawrth 2028.
Mae’n cefnogi prosiectau ffermio ar draws Parciau Cenedlaethol a Thirweddau Cenedlaethol (Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol/AHNEau gynt) Cymru sydd yn gwneud gwelliannau i natur a’r amgylchedd.
Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar y cyd gan ffermwyr a chyrff Tirweddau Dynodedig, sy’n gweithio gyda’i gilydd i:
- Ganolbwyntio ar weithgareddau cydweithredol sy’n rhychwantu ffermydd lluosog i gyflawni nod cyffredin
- Gyflawni prosiectau sy’n cefnogi adferiad byd natur a gwytnwch ecosystemau
- Helpu busnesau fferm i ddod yn fwy cynaliadwy a gwydn
- Greu cyfleoedd i bobl fwynhau’r Tirweddau a’u treftadaeth ddiwylliannol.
Bydd pob un o’r Tirweddau yn cyflogi ymgynghorwyr arbenigol a fydd yn gweithio gyda ffermwyr a thirfeddianwyr i ddatblygu ceisiadau ac yn cefnogi ymgeiswyr drwy’r broses.
Mae Ffermio Bro yn rhaglen gydweithredol. Bydd yn cyllido gweithgareddau sydd yn cwmpasu nifer o ffermydd ac yn cael effaith ar raddfa tirwedd. Mae hyn yn golygu mwy na chlystyrau ffurfiol o ffermydd – bydd Ffermio Bro yn cyllido prosiectau sydd yn cyflawni nod drwy gamau a weithredir ar nifer o ffermydd – does dim rhaid bod gan y ffermwyr unrhyw gytundeb na’u bod yn gweithio’n uniongyrchol gyda’i gilydd.
Cliciwch yma am fanylion ynglŷn â sut bydd Ffermio Bro yn gweithio
Cyflwyniad i’r Cynllun Ffermio Bro ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Mae tirweddau Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn arbennig ac unigryw, gan adlewyrchu eu daeareg, tirffurfiau, hanes anheddiad dynol, tir amaeth a’r fioamrywiaeth a’r bywyd gwyllt sydd hefyd yn eu siapio ac yn dibynnu arnynt. Mae angen iddyn nhw barhau i gael eu rheoli, eu gwella a’u gwarchod, yn bennaf trwy ffermio, gan hefyd gefnogi’r ffermwyr a’r cymunedau sy’n gweithio yma. Mae ein cynllun amaeth-amgylcheddol Ffermio Bro: Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnig cyllid ychwanegol i ganiatáu i ffermwyr weithio mewn partneriaeth â’i gilydd, sefydliadau eraill, a ni i sicrhau canlyniadau gwell i natur a chymunedau. Gyda’n gilydd, ni sy’n gwybod orau y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu ein tirweddau a’n cymunedau, a esbonnir yng Nghynllun Rheoli’r Parc, “Dyfodol y Bannau.”
Rhaid i’ch fferm fod yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae hwn yn gynllun grant cyfalaf, sy’n ei gwneud yn ofynnol i’r holl waith gael ei gwblhau o fewn y flwyddyn ariannol (1 Ebrill i 28 Chwefror), gan adael digon o amser i ni gwblhau’r gwaith gweinyddol cyn diwedd y flwyddyn ariannol ar 31 Mawrth.
Mae’r cynllun wedi’i gyfyngu i dair blynedd (Ebrill 2025 i Fawrth 2028), gan helpu i lywio haen gydweithredol y Cynllun Ffermio Cynaliadwy. Bydd yn gweithio ochr yn ochr – nid mewn cystadleuaeth – â chynlluniau presennol.
Yr hyn y byddwn yn ei ariannu
Byddwn yn derbyn un grant fesul cyfeirnod cwsmer fferm fesul blwyddyn oni bai bod un neu fwy o ffermydd yn ymwneud â mwy nag un bartneriaeth sy’n cyflawni o dan Ffermio Bro.
Byddwn yn dyfarnu grantiau cyfalaf rhwng £1001.00 a £20,000.00. Bydd unrhyw geisiadau am grant o £10.000.00 neu fwy yn cael eu hasesu gan y Panel Asesu Lleol.
Byddwch yn cyflwyno Ffurflen Mynegi Diddordeb i ni i gychwyn trafodaethau rhyngoch chi / eich partneriaeth a ni ac yn dilyn hynny, os hoffech barhau, byddwch wedyn yn cyflwyno Ffurflen Gais lawn i ni. Mae Datganiadau o Ddiddordeb ar gau ar hyn o bryd ar gyfer y flwyddyn gyntaf o gyllid. Byddwn yn cyhoeddi ein ffenestr gyllido nesaf ddechrau 2026.
Pa fath o weithgareddau fydd yn gymwys i gael cyllid?
- Plannu coed dwysedd isel wedi’i dargedu lle bydd yn gwella cynefin. Gallai hynny gynnwys ar lannau serth afonydd, mewn ceunentydd ac ar lannau nentydd yn yr ucheldir, corneli caeau, a chreu porfeydd coediog.
- Adfer coetiroedd
- Adfywio naturiol.
- Adfer a chreu gwrychoedd.
- Gwaredu Rhywogaethau Estron Goresgynnol.
- Ymyriadau rheoli risgiau llifogydd yn naturiol.
- Gwella a chreu gwlyptiroedd drwy fesurau ailwlychu a chefnogi pyllau, llynnoedd, gwelyau cyrs a ffeniau.
- Gwella a chreu cynefinoedd torlannol.
- Gwella cynefinoedd a mawndiroedd ucheldirol ac agored.
- Gwella a chreu cynefinoedd iseldir.
- Adfer gweirgloddiau, a chreu stribedi a llecynnau adar gwyllt, bywyd gwyllt a phryfed peillio.
- Adfer terfynau traddodiadol, waliau cerrig, cloddiau pridd a ffensys llechi.
- Gwella mynediad i gefn gwlad drwy uwchraddio/gwella llwybrau cyhoeddus, tir mynediad agored a mannau gwyrdd.
- Mesurau wedi’u targedu er mwyn cefnogi adferiad rhywogaethau bywyd gwyllt a chynefinoedd a amlinellir yn y cynllun, megis creu a sefydlu cynefin nythu a bwydo; gan gynnwys mesurau na ellir eu hosgoi i reoli ysglyfaethwyr er mwyn cefnogi’r rhywogaethau hynny fel un o’r camau gweithredu ehangach ar gyfer y dirwedd.
- Mesurau wedi’u targedu er mwyn gwella ansawdd dŵr, megis rheoli da byw.
Ar gyfer tiroedd comin cofrestredig
Yn ogystal, os ydych chi’n gwneud cais ar ran cymdeithas cominwyr gofrestredig a chyfansoddedig ac yr hoffech archwilio opsiynau ar gyfer rheoli llwyth tanwydd i liniaru ac atal tân gwyllt sy’n gysylltiedig â llosgi bwriadol, byddem yn hapus i’ch helpu i ddatblygu syniadau mewn trafodaeth gyda’ch rhydd-ddeiliad.
Cyfraddau talu
Rydym yn talu ar y gyfradd ymyrraeth safonol a bennir gan Taliadau Gwledig Cymru (Ffermio Bro – Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig: manylebau technegol | LLYW.CYMRU).
Pan na ellir defnyddio’r fanyleb dechnegol, er enghraifft oherwydd ystyriaethau amgylcheddol sy’n benodol i’r tir ffermio dan sylw, byddwn yn cynnig hyd at 40% o werth grant y costau gwirioneddol.
Lle derbynnir cynnig lle nad oes cost safonol ar gael, byddwn yn cynnig hyd at 100% o’r costau lle mae budd amgylcheddol uniongyrchol y gellir ei brofi ac na fydd y ffermwr yn gwneud elw masnachol preifat a / neu nad yw’n gysylltiedig â chynhyrchiant cynradd.
Byddwn yn ystyried cyfrannu tuag at brynu peiriannau cyfalaf lle y bo’n berthnasol a lle mae’r ymgeisydd / ymgeiswyr yn dangos y bydd y peiriannau / offer yn cael eu defnyddio am sawl blwyddyn wedyn, gan ymwneud yn uniongyrchol â’r gwaith prosiect sy’n cael ei gwblhau.
Pan fyddwch wedi derbyn neu ar fin derbyn cyllid o dan gynllun arall a ariennir gan Lywodraeth Cymru, rhaid i chi roi sicrwydd ysgrifenedig i ni nad ydych neu na fyddwch yn derbyn cyllid ar gyfer yr un gwaith yr ydych yn gwneud cais amdano o dan Ffermio Bro.
Cysylltiadau allweddol a manylion cyswllt:
Swyddog Prosiect Ffermio Bro – Katie Parkinson
07929 858883
Blynyddoedd 2 a 3
Rydym yn datblygu syniadau ar gyfer Blynyddoedd 2 a 3. Ar gyfer Blwyddyn 2 ymlaen, trwy gydweithio a chyd-ddatblygu gyda ffermwyr a Phartneriaeth Natur Leol y Parc Cenedlaethol, byddwn yn cefnogi prosiectau sy’n adeiladu ar y sylfeini a sefydlwyd yn ystod Blwyddyn 1 yn ogystal â cheisio arian a chyllid ychwanegol i ddatblygu prosiectau a rhaglenni cofleidiol cyflenwol.
Beth yw eich syniadau? Byddem yn gwerthfawrogi clywed gennych: ff********@*************ov.uk
Cyfeiriwch at y Cwestiynau Cyffredin ar y wefan Tirweddau Cymru Ffermio Bro.