Mae’n dal yn rhy gynnar i ragweld beth yn union fydd yn digwydd ond gallwn ddyfalu’r effeithiau y bydd hinsawdd wahanol yn ei chael ar dirwedd y Parc Cenedlaethol.
Os yw’r hafau yn hirach, yn boethach ac yn sychach, bydd y gorgorsydd ar draws yr uwchdiroedd yn dechrau sychu. Y tebygolrwydd yw y bydd mwy o danau glaswellt a rhostir, gan newid patrymau’r llystyfiant ar draws y tiroedd uchel ac annog mwy o redyn. Wrth i lefelau afonydd ostwng, mae’n bosibl y bydd rhai rhywogaethau (megis y rhai sy’n ffafrio nentydd llif cyflym ar dir uchel) yn diflannu neu mae’n bosibl y bydd pysgod eog a brithyll yn ei chael yn anodd claddu wyau. Mae’n bosibl y bydd straen sychder yn effeithio ar rai coed megis y ffawydden a gallai ychydig o flynyddoedd gwael eu lladd mewn dim o dro.
Gallai gaeafau mwynach olygu nad yw rhai hadau’n egino mwyach gan fod angen rhew neu dymereddau is arnynt i ysgogi eu datblygiad. Gallai adar mudol aros yn hirach ac yn hirach gan roi mwy o bwysau ar y bwyd sydd ar gael. Bydd tymheredd mwyn hefyd yn arwain at fwy o famaliaid, adar a phryfed yn goroesi’r gaeaf, gan arwain at gynnydd sylweddol o ran eu niferoedd. Er, ar yr olwg gyntaf, gall hyn fod yn newyddion da yn y tymor byr, ond gallai’r niferoedd cynyddol hyn achosi problemau wrth iddynt gystadlu â rhywogaethau eraill a nhw eu hunain am fwyd a safleoedd nythu.
Gallai glaw trwm, yn enwedig ar ôl sychder yr haf achosi llifogydd ac erydu pridd. Mae’r gwaddod ychwanegol sy’n cael ei olchi i afonydd yn newid cemeg y dŵr sy’n effeithio ar bob planhigyn ac anifail dŵr croyw, a gallai gwelyau afon gro a cherrig gael eu claddu o dan fwd, sy’n amddifadu rhai rhywogaethau o’r amodau sydd eu hangen arnynt.