O ystyried eu lleoliad daearyddol, eu hystod o gynefinoedd, rhywogaethau ac ecosystemau a’r eithafion hinsoddol maent yn eu hwynebu, mae Parciau Cenedlaethol Prydain mewn sefyllfa dda i wneud cyfraniad cenedlaethol a rhanbarthol sylweddol at liniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd drwy reoli llifogydd, cadwraeth ddŵr, cadwraeth garbon, ehangu coetir, gwarchod bioamrywiaeth a ffermio cynaliadwy. Maent yn darparu baromedrau mynyddig, ucheldirol, iseldirol ac arfordirol o ran y newidiadau ecolegol sy’n digwydd a’r potensial am ymatebion gwledig i’r newidiadau sydd o’u blaen. Dyma’r amser i fanteisio ar y nodweddion hyn ac i ddatblygu’r rôl hon ar ran y genedl.
Mae ecolegwyr pob un o Barciau Cenedlaethol y DU wedi llunio agenda ar gyfer gweithredu o fewn y tirweddau arbennig hyn. Mae’n amlinellu sut y bydd cydweithredu ac ymarferoldeb ffermio, coedwigaeth, rheoli adnoddau dŵr a rheoli datblygu yn caniatáu i’r Parciau Cenedlaethol a’u cymunedau ymateb i newid yn yr hinsawdd.
Darllenwch yr adroddiad llawn: