Cyllid grant i adfer gwrychoedd Bannau Brycheiniog

Mae’r cynllun newydd hwn yn rhoi cyfle i ffermwyr a thirfeddianwyr eraill i dderbyn cefnogaeth ariannol i sefydlu ac adfer ffiniau caeau traddodiadol wrth wella storio carbon mewn gwrychoedd.

Rheolir y cynllun gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mewn partneriaeth gyda Stump up for Trees a’r Woodland Trust a chyllidir gan gronfa SLSP Llywodraeth Cymru.

Bydd y project yn darparu coed a chyfraniad grant tuag at gost ffensio i gefnogi  plannu gwrychoedd newydd. Bydd ceisiadau i lenwi’r bylchau mewn gwrychoedd hefyd yn cael ei ystyried fesul cais..

Dylai ffermwyr neu dir feddianwyr gyda diddordeb lenwi’r ffurflen gais y gellir ei lawr lwytho: dolen.

Am fwy o wybodaeth neu i fynegi diddordeb mewn cymryd rhan yn y cynllun, cysylltwch gydag Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar y wefan https://www.beacons-npa.gov.uk/contact-us/ trwy e-bost enquiries@beacons-npa.gov.uk neu dros y ffon 01874 624 437.


Mae gwrychoedd yn nodwedd bwysig o dirlun Bannau Brycheiniog, ffinio caeau, dal anifeiliaid a chysgodi rhag tywydd garw.

Mae’r ffiniau traddodiadol hyn yn gynefin i fywyd gwyllt a chreu coridorau sy’n gwella’r cysylltiad yn y dirwedd. Maent yn ffynhonnell bwyd i fywyd gwyllt, storio carbon, gwella safon yr aer a helpu lleihau effaith glaw sylweddol, gan arafu llif y dŵr i’r tir.

Mae’r cynllun wedi ei ddylunio i elwa’r amgylchedd a’r rhai yn rheoli’r amgylchedd, yn ogystal â’r economi wledig estynedig trwy greu swyddi i gontractwyr lleol. Bydd y flaenoriaeth yn cael ei roi i ffermwyr yn y Parc a gwrychoedd sy’n cyfrannu at gysylltiad yn y dirwedd. Bydd ymgeiswyr grant llwyddiannus yn ymrwymo i gynnal a chadw hir dymor.

Bydd y cynllun yn rhedeg am dair blynedd, gyda’r cyfnod cais cyntaf nawr ar agor. Dyddiad cau’r rownd gyntaf o geisiadau yw Tachwedd 30ain 2022.  Os ydym yn derbyn mwy o geisiadau nag y gallwn eu cyllido, bydd ceisiadau addas yn cael eu rhoi yng ngheisiadau 2023/24.