Rydym wrth ein bodd eich gwahodd i gymryd rhan mewn dwy fenter ieuenctid. Ein cynllun wardeiniaid ifanc a phwyllgor ieuenctid sydd wedi eu hanelu at bobl ifanc 15-18 oed.
Wardeiniaid Ifanc
Mae Cynllun Wardeiniaid Ifanc Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhaglen newydd, gyffrous ac anturus ar gyfer pobl ifanc 15-18 oed. Bydd y cynllun yn cychwyn ym mis Medi ac yn rhedeg trwy’r flwyddyn addysgol i fis Gorffennaf. Bydd dyddiau Wardeiniaid Ifanc yn digwydd unwaith y mis ar benwythnosau ac yn ystod gwyliau ysgol mewn lleoliadau amrywiol ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Fel Warden Ifanc gallwch fod yn:
- Cynnal arolwg bywyd gwyllt
- Plannu coed
- Atgyweirio llwybrau
- Cymryd rhan mewn gweithgareddau hwylParticipating in fun events
- Bod yn rhan o raglen gyfnewid Warden Ifanc parciau cenedlaethol eraill
- A llawer mwy
Trwy ymuno a’r Cynllun Wardeniaid Ifanc, byddwch yn:
- Gwneud ffrindiau newydd
- Datblygu a dysgu sgiliau newydd
- Darganfod llawer o fywyd gwyllt
- Dysgu am Wasanaeth Wardeniaid y Parc Cenedlaethol a gwaith y Warden
- Adeiladu hyder
- Ychwanegu rhywbeth at eich CV
- Gweithio tuag at ennill Gwobr John Muir
- Cael llawer o hwyl yn yr awyr agored
- Byddwn yn darparu lluniaeth blasus fel teisennau…!
Pwyllgor Ieuenctid
Rydym yn chwilio am bobl ifanc 15-18 oed ymroddedig ac angerddol er mwyn mwyn dweud wrthym sut dylai’r Parc Cenedlaethol gael ei rhedeg nawr ac yn y dyfodol.
Byddwch yn ffurfio rhan o’n Pwyllgor Ieuenctid newydd a fydd yn trafod ac yn dylanwadu ar sut fydd dyfodol y Parc Cenedlaethol yn edrych. Fel rhan o’r Pwyllgor, byddwch yn cwrdd unwaith y mis i drafod amrywiaeth o faterion fel newid hinsawdd, cyfleoedd i bobl ifanc, cyflogaeth leol a llawer mwy. Bydd yn cael ei arwain gennych chi ar eich cyfer chi.
Os ydych yn ymuno gyda Phwyllgor Ieuenctid Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog gallech…
• Fod yn rhan o weithgareddau’r Parc Cenedlaethol
• Ddatblygu a dysgu sgiliau newydd
• Adeiladu hyder
• Herio eich hun
• Cyfarfod llawer o bobl debyg i chi
• Dysgu mwy am fywyd gwyllt anhygoel Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, ei chymunedau a’r tirlun
• Cyd gynllunio cyfleoedd gyda phobl ifanc ar gyfer pobl ifanc yn y parc Cenedlaethol
• Ennill profiad gwerthfawr i’w roi ar CV
I wybod mwy am y ddau gynllun, cysylltwch gyda educationemail@beacons-npa.gov.uk