Profiad Gwaith
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cynnig rhaglen brofiad gwaith flynyddol, eleni bydd y rhaglen yn rhedeg ar 13fed – 16fed Gorffennaf 2026.
Mae’r Awdurdod yn cymryd myfyrwyr Blwyddyn 10/11/12 ac y maent yn dilyn rhaglen amrywiol a chael profiad o waith agweddau gwahanol Awdurdod y Parc Cenedlaethol.
Dylai unrhyw fyfyrwyr sydd a diddordeb mewn cymryd rhan yn y rhaglen lawn anfon e-bost at Lora Davies lo*********@*************ov.uk a dweud wrthym pam yr hoffen nhw ymuno a’r rhaglen brofiad gwaith ynghyd â diddordebau neu brofiadau yn amgylchedd awyr agored. Cysylltwch â ni cyn gynted â phosib gan ein bod yn cael nifer fawr o geisiadau i wneud profiad gwaith bob blwyddyn a chaiff y llefydd eu dyfarnu ar sail y cyntaf i’r felin. Rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych!
Dyma ddolen i fideo byr sy’n dangos rhywfaint o’r gwaith a wnaed gan fyfyrwyr yn 2012: Disgyblion Profiad Gwaith y Parc Cenedlaethol