Yn yr adran hon cewch wybodaeth am Eco-sgolion, Eco-ganolfannau, Ysgolion Iach a thiroedd ysgol. Yn ogystal, ledled y Parc Cenedlaethol mae nifer o brosiectau diddorol eraill ar waith, o mentrau cymunedol i ddatblygu cynaliadwy.
Hefyd bydd ein newyddlen dymhorol yn sôn am syniadau, newyddion a gweithgareddau yn ymwneud â chynaliadwyedd.
Eco-ysgolion
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cefnogi’r Llywodraeth yn ei menter ‘Eco-Sgolion’, sy’n annog disgyblion i ymddiddori mewn materion yn ymwneud â’r amgylchedd a chynaliadwyedd. Daw myfyrwyr yn gyfranwyr allweddol mewn penderfyniadau ynghylch lleihau effaith amgylcheddol eu hysgol. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru’n defnyddio’r nifer o ysgolion sy’n ennill statws Baner Werdd (sef cydnabyddiaeth o gyrhaeddiad uchel o fewn y rhaglen) fel dangosydd ar gyfer llwyddiant ei Strategaeth Amgylcheddol.
Mae rhai o’n tîm o Swyddogion Addysg yn Aseswyr Eco-sgolion hyfforddedig a gallan nhw roi cyngor i’ch ysgol ynghylch ennill dyfarniadau Eco-sgolion. Gallwn ddod i’ch ysgol a chwrdd â chi, ond ni allwn gadeirio/eistedd ar eich Eco-bwyllgor.
Am fwy o wybodaeth am Eco-sgolion, ewch i brif wefan Eco-sgolion y DU neu safle Eco-sgolion Cymru.
Eco-ganolfannau
Caiff ceisiadau am ddyfarniadau Eco-ganolfan ar gyfer Canolfannau Maes Addysgol neu Breswyl eu gwneud trwy chwaer-raglen yr Eco-sgolion. Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi ennill statws Eco-ganolfan ar gyfer Parc Gwledig Craig-y-nos a Canolfan Astudio Danywenallt Cymdeithas yr Hostelau Ieuenctid, ac mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn gweithio ar ei chynllun gweithredu ac yn gobeithio cyflwyno cais yn y dyfodol agos.
Ysgolion Iach
Rydym yn cefnogi menter Ysgolion Iach ac yn arbennig o awyddus i hyrwyddo’r syniadau bod “ffordd iach o fyw yn eich helpu chi i berfformio’n well yn yr ysgol ac mewn bywyd,” a bod gweithgaredd corfforol yn ymestyn ymhell y tu hwnt i Addysg Gorfforol. Rydym eisoes wedi gweithio mewn partneriaeth â Chymunedau yn Gyntaf Ystradgynlais i lunio cistiau teganau ar gyfer meysydd chwarae a fydd yn helpu plant i fwynhau bod yn yr awyr agored.
Am fwy o wybodaeth ynghylch ysgolion iach, ewch i brif gwefan Ysgolion Iach.
Tiroedd Ysgolion
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ein Tîm Addysg a’r Gwasanaeth Wardeniaid wedi treulio llawer o amser yn gweithio ar diroedd ysgol. I helpu gyda’r gwaith hwn, rydym hefyd wedi gweithio mewn partneriaeth â Gyrfa Cymru i gynnig sesiynau hyfforddiant mewn swydd a hyfforddiant gyda’r hwyr ar ddatblygu, cynnal ac, yn bwysicaf oll, defnyddio tiroedd ysgol ar gyfer dysgu. Rydym yn rhagweld y caiff mwy o’n hymdrechion yn y dyfodol eu canolbwyntio ar eich hyfforddi chi yn hytrach na gweithio’n uniongyrchol ar waith maes.
Yn ddiweddar mae’r elusen tiroedd ysgol Learning Through Landscapes wedi derbyn cefnogaeth i ddechrau gweithio yng Nghymru. Ewch i’r wefan i ddysgu mwy.