1. Cyflwyniad
Mae’r adroddiad hwn yn esbonio sut mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cyflawni ei gyfrifoldebau o dan y Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol.
Daeth Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 i rym ar 1 Ebrill 2024. O dan y ddeddfwriaeth hon, mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gynhyrchu datganiad blynyddol yn amlinellu sut maent wedi cyflawni’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol.
Mae’r Ddyletswydd yn gosod gofyniad ar gyrff cyhoeddus i weithio tuag at gytundeb neu gyfaddawdu â’u hundebau llafur cydnabyddedig pan yn:
- gosod eu hamcanion lles; ac
- cymryd penderfyniadau strategol am y camau rhesymol sy’n ofynnol i gyflawni’r amcanion hynny.
Mae adran 16(2) o’r Ddeddf yn disgrifio sut y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus fynd i’r afael â’r broses o ddod i gytundeb neu gyfaddawdu gyda’u hundebau llafur cydnabyddedig. Mae hyn yn cynnwys sicrhau bod undebau llafur yn cymryd rhan weithredol yn datblygu amcanion a phenderfyniadau strategol.
Yn benodol, mae’n ofynnol i’r Awdurdod:
- ymgysylltu ag undebau llafur cydnabyddedig yn gynnar; ac
- parhau i’w cynnwys drwy gydol y broses drwy:
- rhannu gwybodaeth ddigonol a pherthnasol i alluogi ystyried cynigion yn briodol
- caniatáu digon o amser ar gyfer ymatebion ac ymgysylltu ystyrlon.
Mae adran 18 o’r Ddeddf hefyd yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus i adrodd yn flynyddol ar gydymffurfiaeth â’r Ddyletswydd Partneriaeth Gymdeithasol. Rhaid i’r adroddiad hwn:
- Nodi’r camau a gymerwyd yn ystod y flwyddyn ariannol berthnasol;
- Derbyn cytundeb ag undebau llafur cydnabyddedig, neu gynnwys esboniad lle nad oes cytundeb
- Ei gyhoeddi a’i anfon ymlaen i’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.
2. Cefndir
Ochr yn ochr â gofynion Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023, mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog hefyd yn ddarostyngedig i ddyletswyddau o dan ddeddfwriaeth arall, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021. Mae’r Deddfau hyn yn atgyfnerthu’r disgwyliad bod cyrff cyhoeddus yn ymgysylltu â gweithwyr a’u cynrychiolwyr wrth ddatblygu polisi a gwneud penderfyniadau.
Mae’r Awdurdod wedi sefydlu trefniadau ar gyfer ymgysylltu parhaus â’i undebau llafur cydnabyddedig ers sawl blwyddyn. Mae hyn wedi cefnogi deialog agored a chynnal cysylltiadau cyflogaeth cadarnhaol. Cynhelir cyfarfodydd rhwng cynrychiolwyr rheolwyr ac undebau llafur bob mis.
Pwrpas y cyfarfodydd hyn yw darparu fforwm strwythuredig ar gyfer trafodaeth adeiladol ar y materion strategol a’r penderfyniadau sy’n wynebu’r Awdurdod, ar y cynnydd tuag at weithredu ein lles ac amcanion strategol eraill ac ar faterion sy’n gysylltiedig â’r gweithlu. Mae hyn yn cynnwys nodi ac ymgynghori â chynrychiolwyr undebau llafur yn gynnar, ystyried newidiadau arfaethedig ac o ran materion sy’n gysylltiedig â’r gweithlu, trafod datblygu telerau, amodau lleol a mentrau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth.
Mae’r cyfarfodydd yn cael eu cadeirio gan y Prif Weithredwr ac maent yn cynnwys presenoldeb gan gynghorydd adnoddau dynol yr Awdurdod a chynrychiolwyr o’r undebau llafur cydnabyddedig.
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cydnabod undebau llafur GMB ac Unsain yn ffurfiol.
2. Cydymffurfio â’r Ddeddf
Mae APCBB wedi cymryd agwedd o genhadaeth at bopeth rydyn ni’n ei wneud. Ein pum maes cenhadaeth rhyng-gysylltiedig allweddol yw:
- Hinsawdd Cyflawni allyriadau nwyon tŷ gwydr sero net ar draws Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog erbyn 2035.
- Dŵr Adnoddau dŵr ac amgylcheddau dŵr glân, diogel, gwydn erbyn 2030.
- Natur Natur gadarnhaol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog erbyn 2030.
- Pobl Eu galluogi i fyw, gweithio ac ymweld yn ddiogel, teg a chynaliadwy.
- Lle Lleoedd hardd, ffyniannus a chynaliadwy. Enwog am eu treftadaeth naturiol a diwylliannol, nawr ac am byth.
Mae’r datganiadau cenhadaeth hyn yn ffurfio ein Amcanion Lles ar gyfer 2023-2028 ac yn dangos sut y bydd ardal ddaearyddol y Parc yn cyfrannu at gyflawni’r 7 nod lles trwy’r pum ffordd o weithio.
Mae blaenoriaethau corfforaethol 2025-28 yn ceisio ymgorffori ein nodau lles ymhellach yn ein gwaith.
Gwneud penderfyniadau strategol
Mae gwneud penderfyniadau strategol yr Awdurdod yn cynnwys undebau llafur mewn cynllunio hirdymor a datblygu polisi i gefnogi gwella gwasanaethau, rheoli adnoddau yn effeithiol a chyflawni canlyniadau cadarnhaol i staff. Yn ystod y cyfnod adrodd, mae hyn wedi cynnwys:
Gweithio ar y cyd ag undebau llafur i ddiweddaru polisïau Gwerthuso Swyddi ac Adolygiad Datblygu Perfformiad yr Awdurdod. Trwy’r Gweithgor Lles a’r fforwm ffurfiol gydag undebau llafur cydnabyddedig, cyd-gynlluniwyd polisïau newydd ochr yn ochr â ffurflen adolygu perfformiad ddiwygiedig.
Mae’r gwaith hwn yn enghraifft glir o bartneriaeth gymdeithasol effeithiol yn ymarferol, gydag undebau llafur yn ymwneud o’r cychwyn cyntaf wrth nodi problemau gyda threfniadau presennol, cynnig atebion a gwneud argymhellion. Mae’r dull cynhwysol hwn yn cefnogi deialog adeiladol ac arweiniodd at bolisïau a phrosesau wedi’u diweddaru a ddatblygwyd ar y cyd a’u cytuno gan y ddau barti.
Ymgynghorir ag undebau llafur ym mhob cam o weithgarwch rheoli newid o fewn yr Awdurdod a rhoddir mynediad amserol iddynt at ddogfennaeth berthnasol i gefnogi ymgysylltu ystyrlon. Dangoswyd y dull hwn yn ystod rheoli newid sylweddol ac ailstrwythuro sefydliadol a gynhaliwyd eleni drwy’r broses ‘Penaethiaid’. Oherwydd gwrthdaro buddiannau posibl i gynrychiolwyr staff lleol, cynhaliwyd ymgynghoriad â chynrychiolwyr undebau llafur rhanbarthol; fodd bynnag, cafodd cynrychiolwyr lleol eu hysbysu trwy gydol y broses. Roedd hyn yn sicrhau tryloywder, parhad ymgysylltu a phartneriaeth gymdeithasol effeithiol trwy gydol y broses.
Ein nod yw ymgorffori egwyddorion partneriaeth gymdeithasol ar draws pob agwedd ar ein gwaith, gan gydnabod eu rôl ganolog wrth gefnogi ein dyletswyddau lles a chyfrannu at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Dros y flwyddyn nesaf, byddwn yn mabwysiadu dull cynlluniedig a chydweithredol o gryfhau’r ymrwymiad hwn, gan gynnwys codi ymwybyddiaeth o’r gofynion sy’n deillio o Ddeddf Llywodraeth Leol Cymru a’r Ddeddf Partneriaeth Gymdeithasol, a nodi canllawiau clir ar sut y gellir cyflawni’r dyletswyddau hyn yn ymarferol.
Yn unol â phwyslais y Ddeddf ar gyfranogiad, atal a meddwl hirdymor, byddwn yn gweithio mewn partneriaeth â’r undebau llafur cydnabyddedig i ffurfioli ein hamcanion a’n blaenoriaethau llesiant, gan sicrhau eu bod yn cael eu llywio gan brofiad staff ac yn canolbwyntio ar wella lles sefydliadol a gweithlu. O fis Ebrill 2025 ymlaen, bydd yr Awdurdod yn cymryd camau i hwyluso cyfranogiad effeithiol cynrychiolwyr undebau llafur lleol gyda’u dyletswyddau undeb. Byddwn hefyd yn adolygu’r cylch gorchwyl ar gyfer ein fforwm gyda chynrychiolwyr undebau llafur i sicrhau ei fod yn effeithiol, yn canolbwyntio ar ganlyniadau ac yn cefnogi ymgysylltu ystyrlon, gan alluogi deialog adeiladol sy’n cyfrannu at wneud penderfyniadau cynaliadwy a gwelliant parhaus.