Wardeiniaid Gwirfoddol Bro’r Sgydau – Proffil y Rôl

Yn atebol i:  Gydlynydd y Gwasanaeth Gwirfoddolwyr / Warden Ardal Cynorthwyol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

Lleoliad: Maes Parcio Gwaun Hepste, Maes Parcio Clun Gwyn, Maes Parcio Craig y Ddinas

Swyddfa: Pencadlys Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn Aberhonddu a Chanolfan Ymwelwyr Bro’r Sgydau

Oriau: O leiaf 10 diwrnod y flwyddyn rhwng 9:30am a 4pm ar benwythnosau a gŵyl y banc gydag ambell ddiwrnod yn ystod yr wythnos ar adegau prysur yn yr haf.

Dyddiad Cau:  1af Mai 2012        

PWRPAS Y RÔL

Cynnig wyneb cyfeillgar ar ran Gwirfoddolwyr Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ein safleoedd ymwelwyr ym Mro’r Sgydau, yn ogystal â darparu addysg, cyngor a thawelwch meddwl i’r cyhoedd.

ELFENNAU ALLWEDDOL

  1. Ymgysylltu â’r cyhoedd a darparu gwybodaeth a chyngor am y canlynol:

a) Dewis llwybr

b) Cyfarpar addas ar gyfer y tir dan draed (esgidiau ac ati)

c) Amwynderau lleol

d) Ystyriaethau diogelwch ym Mro’r Sgydau

  1. Bod yn gyfrifol am osod a chlirio gazebo, baneri a byrddau arddangos y Parc Cenedlaethol ym meysydd parcio Gwaun Hepste, Clun Gwyn neu Graig y Ddinas (yn ôl y rota) gan dreulio’r diwrnod yno’n darparu gwybodaeth a gwerthu/dosbarthu taflenni a mapiau i ymwelwyr.
  1. Ymrwymo i weithio o leiaf deg diwrnod y flwyddyn ar benwythnosau, gwyliau banc ac weithiau yn ystod yr wythnos ar adegau prysur yn yr haf.
  1. Casglu a dychwelyd yr arian mân a chofnod o’r nwyddau a werthwyd i faes parcio Cwm Porth.
  1. Galw’r gwasanaethau argyfwng a rhoi gwybod i’r warden ar ddyletswydd am unrhyw ddamweiniau difrifol. Cadw cofnod o unrhyw ddigwyddiadau/damweiniau bach a mawr ac adrodd yn ôl i’r warden ar ddyletswydd ar ddiwedd y dydd.
  1. Cadw llygad yn achlysurol ar y meysydd parcio a chodi sbwriel yn y meysydd parcio ac ar y llwybrau poblogaidd ym Mro’r Sgydau. Adrodd yn ôl am unrhyw faterion i’r Warden Ardal Cynorthwyol.
  1. Hyrwyddo’r gwaith a wneir gan y Parc Cenedlaethol a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.
  1. Hyrwyddo’r gwasanaethau a gynigir gan y Parc Cenedlaethol.
  1. Hyrwyddo’r cyngor/gwasanaethau a gynigir gan sefydliadau eraill (Comisiwn Coedwigaeth, Achub Mynydd, Grŵp Darparwyr Gweithgareddau Awyr Agored De Cymru)
  1. Cynorthwyo gyda rheoli’r meysydd parcio cyhoeddus ym Mro’r Sgydau, yn ôl y gofyn.
  1. Cynorthwyo gyda hyfforddi neu fentora gwirfoddolwyr eraill.
  1. Hyrwyddo gwaith Wardeniad Gwirfoddol Bro’r Sgydau drwy siarad â’r cyhoedd a darparu gwybodaeth.
  1. Cymryd rhan mewn sesiynau hyfforddi a chyfarfodydd gyda gwirfoddolwyr eraill a’r Warden Ardal Cynorthwyol.

14. Glynu wrth Bolisi Iechyd a Diogelwch Wardeniaid Gwirfoddol Bro’r Sgydau bob amser.

GWYBODAETH, SGILIAU A PHROFIAD GOFYNNOL

Gwybodaeth:

Hanfodol:       Diddordeb mewn darparu gwybodaeth a chyngor i’r cyhoedd.

Dymunol:       Gwybodaeth flaenorol am yr ardal.

                      Yn deall ac yn cefnogi pwrpas Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.

 Sgiliau:

Hanfodol:       Trwydded yrru lawn.

Sgiliau cyfathrebu llafar da ac yn mwynhau cwrdd a siarad â phobl. Hyder i weithio ar ei liwt ei hun ac mewn parau allan yng nghefn gwlad.

Dymunol:        Sgiliau darllen map a chwmpawd (hyfforddiant ar gael)

                        Sgiliau TG sylfaenol – defnyddio’r we ac e-bost

                        Lefel dda o ffitrwydd corfforol

                        Sgiliau cymorth cyntaf sylfaenol

 Profiad:

Hanfodol:        Gweithio gyda’r cyhoedd

Dymunol:        Gweithio allan yn yr awyr agored

 Nodweddion Personol:

 Hanfodol:        Sgiliau rhyngbersonol da

Agwedd synhwyrol at eich iechyd a diogelwch chi ac eraill

Dibynadwy

  Hyfforddiant Pellach (darperir hyn)

 Hanfodol:        Mynychu diwrnod hyfforddi.

Sgiliau darllen map a chwmpawd sylfaenol.

Delio â’r cyhoedd.

 Dymunol:        Cymorth Cyntaf.

Gwybodaeth sylfaenol am y gyfraith hawliau tramwy cyhoeddus.

Hyfforddiant gwasanaeth i gwsmeriaid sylfaenol.

 ARALL

Dylai pob gwirfoddolwr dros 18 oed anelu at gynnig o leiaf 10 diwrnod y flwyddyn i’r cynllun Wardeniaid Gwirfoddol Bro’r Sgydau.

  1. Yn y lle cyntaf, bydd pob gwirfoddolwr yn cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod cychwynnol i drafod y rôl. Yr ail gam i’r ymgeiswyr llwyddiannus fydd mynychu hyfforddiant grŵp a sesiwn gynefino. Ar ôl cwblhau’r rhain i gyd yn llwyddiannus, cynigir y rôl i’r gwirfoddolwr.
  2. Bydd Wardeniaid Gwirfoddol Bro’r Sgydau yn gweithio mewn parau naill ai gyda gwirfoddolwr arall neu aelod arall o staff wrth hyfforddi.
  3. Bydd pob gwirfoddolwr yn gwneud cyfnod cychwynnol o wirfoddoli sy’n para 5 sesiwn. Wedyn byddant yn cael cyfarfod â’r Warden Ardal Cynorthwyol i adolygu sut aeth y rôl wirfoddoli.

5.   Bydd pob gwirfoddolwr yn cael siwmper fleece, crys-t a festiau llachar wedi’u brandio, ond bydd angen iddynt ddod â dillad dal dŵr eu hunain.

6.   Gofynnir i’r gwirfoddolwyr am ganiatâd i rannu eu gwybodaeth gyswllt, ond dim ond at ddibenion cydlynu gwirfoddolwyr.

SUT I WNEUD CAIS

drwy e-bost communities@beacons-npa.gov.uk

neu

drwy’r post: d/o Cymunau Cynaliadwy, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Plas y Ffynnon, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, LD3 7HP

I gael rhagor o wybodaeth neu am sgwrs anffurfiol ynghylch y rôl hon, mae croeso i chi gysylltu â’r Adran Cymunedau Cynaliadwy:

Ffôn: (01874)624437

communities@breconbeacons.org