Gall y tîm hwn helpu, cynorthwyo a rhoi cyngor i grwpiau ar:
-
gynnal arolygon a gwerthuso.
-
datblygu prosiectau cynaliadwy.
-
chwilio am arian perthnasol ar gyfer prosiectau.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Helen Roderick – Swyddog Datblygiad Cynaliadwy. Ffoniwch 01874 620417 neu anfonwch e-bost at he************@*************ov.uk
Rhaglenni Grant
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn gwahodd ceisiadau gan grwpiau cymunedol a Tirfeddianwyr sydd eisiau ymgymryd â phrosiectau adfer natur lleol ymarferol a chadarnhaol.
Rhaid cwblhau gwaith o’r rownd gyntaf o gyllid erbyn 17 Mawrth 2026.
Mae’r ail rownd o gyllid grant yn rhedeg tan fis Mawrth 2027.
Gall grantiau dalu 100% o gostau prosiect. Rhaglenni grant cyfalaf yw’r rhain ar gyfer prynu deunyddiau a nwyddau / costau contractwyr. Nodwch, nad ydym yn gallu ariannu costau cynnal a chadw dyddiol neu waith cynnal a chadw arferol. Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru Cynllun Tirweddau Cynaliadwy, Mannau Cynaliadwy.
Cymunedau sy’n gweithio ar gyfer Adferiad Natur
Grantiau hyd at £5,000 ar gyfer grwpiau cymunedol sydd eisiau ymgymryd â phrosiectau adfer natur lleol ymarferol a chadarnhaol.
Gallai prosiectau, er enghraifft:
- gwella mannau gwyrdd ar gyfer bywyd gwyllt
- creu ardaloedd blodau gwyllt
- cefnogi mentrau tyfu bwyd cymunedol
- mynd i’r afael â rhywogaethau anfrodorol goresgynnol (INNS)
- cynnwys gwaith rheoli coetir neu greu gwrychoedd.
- cynnwys plannu er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd
Tirfeddianwyr sy’n Gweithio dros Natur
Os oes gennych rif cyfeirnod cwsmer (CRN) Llywodraeth Cymru, dylai eich man cyswllt cyntaf fod yn Ffermio Bro – cysylltwch â ni os ydych yn ansicr.
Grantiau hyd at £5,000 i dirfeddianwyr sydd am ymgymryd â phrosiectau adfer natur ymarferol a chadarnhaol. Rhaid i safleoedd fod o fewn ffin y Parc Cenedlaethol.
Rhaid i safleoedd fod o fewn ffin y Parc Cenedlaethol. Gallai prosiectau, er enghraifft:
- digwydd ar ddaliadau tir sy’n llai na 3ha
- digwydd ar Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur (SINCs), neu ar wersylloedd ac ati.
- cefnogi tyfu bwyd adfywiol
- gwella mannau gwyrdd ar gyfer bywyd gwyllt
- creu ardaloedd blodau gwyllt
- mynd i’r afael â rhywogaethau anfrodorol goresgynnol (INNS)
- cynnwys gwaith rheoli coetir neu greu gwrychoedd.
- cynnwys plannu er mwyn lleihau’r perygl o lifogydd
Adeiladau Cymunedol ac Ynni
Mae grantiau o hyd at £10,000 ar gael i gefnogi’r gwaith o osod mesurau arbed ynni
Gallai prosiectau gefnogi/cyfrannu at, er enghraifft:
- Mesurau camau cyntaf hanfodol fel inswleiddio llofft, goleuadau LED a rheolaethau gwresogi
- Gweithredu argymhellion camau nesaf o archwiliad ynni presennol
- Gosod ynni adnewyddadwy
Cysylltwch â ni os oes gennych syniad neu os hoffech wybod mwy: gr****@*************ov.uk
Mae’r Gronfa Datblygu Cynaliadwy yn cynnig grantiau gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar hyn o bryd