Beth yw cymuned?

Mae grŵp cymunedol yn aml yn ymwneud ag amcan, pryder neu ddiddordeb cyffredin ac yn gweithredu ar sail gwbl wirfoddol.

Dyma enghreifftiau o gymuned neu grŵp cymunedol:

  • grŵp gweithredu lleol.
  • clwb cinio neu glwb cymdeithasol.
  • clwb ieuenctid.
  • cyngor cymuned.
  • cymdeithas neuadd bentref / neuadd gymunedol.
  • grŵp gwarchod y gymdogaeth.
  • grŵp chwarae.
  • grŵp hanes lleol.
  • grŵp mynediad i’r anabl.
  • pysgotwyr / cymdeithas bysgota.
  • cymdeithas i denantiaid a phreswylwyr.
  • grŵp gweithredu mewn pentref ar ynni cynaliadwy.