Mae grŵp cymunedol yn aml yn ymwneud ag amcan, pryder neu ddiddordeb cyffredin ac yn gweithredu ar sail gwbl wirfoddol.
Dyma enghreifftiau o gymuned neu grŵp cymunedol:
- grŵp gweithredu lleol.
- clwb cinio neu glwb cymdeithasol.
- clwb ieuenctid.
- cyngor cymuned.
- cymdeithas neuadd bentref / neuadd gymunedol.
- grŵp gwarchod y gymdogaeth.
- grŵp chwarae.
- grŵp hanes lleol.
- grŵp mynediad i’r anabl.
- pysgotwyr / cymdeithas bysgota.
- cymdeithas i denantiaid a phreswylwyr.
- grŵp gweithredu mewn pentref ar ynni cynaliadwy.