Digwyddiadau a Datblygiadau a Ganiateir

Datblygiad a Ganiateir ac effeithiau ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig

Mae Hawliau Datblygu a Ganiateir yn galluogi unigolion a datblygwyr i wneud newidiadau penodol i adeiladau neu dir heb yr angen i wneud cais na chael gafael ar ganiatâd cynllunio gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.   Mae’r rhan fwyaf o Hawliau Datblygu a Ganiateir yn ddarostyngedig i amodau a chyfyngiadau penodol ac mewn rhai achosion gellir eu tynnu’n ôl. Gall datblygiadau a allai fod wedi’u cwmpasu fel arall gan Hawliau Datblygu a Ganiateir hefyd gael eu cyfyngu mewn rhai ardaloedd gwarchodedig (er enghraifft, Parciau Cenedlaethol ac ardaloedd cadwraeth) ac ar gyfer adeiladau rhestredig. Argymhellir ceisio cyngor ar bob achlysur cyn gwneud unrhyw waith yr ydych yn ystyried a allai fod yn ddatblgiad caniataëdig.

Mae Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd) yn gosod amod ar gynigion datblygu sy’n cynnwys Datblygiad a Ganiateir fel na ddylai datblygiad sy’n debygol o gael effaith sylweddol ar Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) ddechrau nes bod yr Awdurdod Cynllunio Lleol wedi rhoi cymeradwyaeth ysgrifenedig.

Gall hwn ymwneud ag unrhyw effeithiau ar nodweddion dynodedig Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ond mae’n arbennig o berthnasol i Ddatblygiadau a Ganiateir o fewn dalgylchoedd Ardaloedd Cadwraeth Arbennig sy’n sensitif i faetholion sy’n cynnwys maetholion ychwanegol neu lifoedd draenio budr newydd/ychwanegol. Ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae’r rhain yn cynnwys dalgylchoedd Afon Wysg, Gwy a Thywi. Mae hyn yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:

  • Ddatblygiadau amaethyddol
  • “Rheol 28 diwrnod” a safleoedd carafanau a gwersylla ardystiedig.
  • Defnydd dros dro o dir ar gyfer e.e. digwyddiadau, gwyliau a meysydd parcio

Mae rhagor o wybodaeth am leoliadau a nodweddion dynodedig Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ar gael gan DataMapWales a Cyfoeth Naturiol Cymru:

Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACA) | MapCymru 

Cyfoeth Naturiol Cymru / Dewch o hyd i ardaloedd gwarchodedig o dir a môr 

Datblygu Amaethyddol

Mae Datblygiad a Ganiateir yn golygu, os yw eich fferm yn 5 hectar neu fwy, mae gennych yr hawl i:

  • Godi, ymestyn neu newid adeilad (heb ei restru)
  • Cynnal cloddio a gweithrediadau peirianneg sydd eu hangen at ddibenion amaethyddol, er efallai y bydd angen cymeradwyaeth arnoch o hyd ar gyfer manylion penodol o’r datblygiad

Rhaid i chi roi gwybod i’r Awdurdod o’ch bwriad i ddefnyddio eich Hawliau Datblygu a Ganiateir i benderfynu a oes angen Cymeradwyaeth Flaenorol ai peidio.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cynghori pob Awdurdod Cynllunio Lleol yng Nghymru bod y mathau o ddatblygiadau amaethyddol a allai gael Effaith Sylweddol Debygol ar ddalgylch sy’n sensitif i faetholion yn cynnwys:

  • Tai da byw – unrhyw gynigion lle mae newid yn y math o dda byw neu gynnydd yn y niferoedd
  • Cyfleusterau ac adeiladau ar gyfer trin tail da byw, slyri a thail organig arall e.e., treulio anaerobig neu gompostio
  • Storfa dail / slyri newydd neu wedi’i newid yn sylweddol – pob math o dail gan gynnwys ‘tail organig’ eraill er enghraifft treuliad neu gompost
  • Clampiau silwair a seilwaith cysylltiedig i gynnwys elifiant cynnwys maetholion uchel
  • Gwlyptiroedd a adeiladwyd ar fferm
  • Datblygiad garddwriaethol, gan gynnwys tai pac a pholytwneli
  • Cyfleusterau trin da byw

Mae’n debygol y bydd angen cymeradwyaeth ysgrifenedig ymlaen llaw neu ganiatâd cynllunio llawn ar gyfer yr holl fathau hyn o ddatblygiad lle maent wedi’u lleoli mewn dalgylch sy’n sensitif i faetholion.

Am ragor o wybodaeth ynghylch ddatblygiadau amaethyddol a datblygiadau a ganiateir, gweler canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru: https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/planning-and-development/our-role-in-planning-and-development/advice-to-planning-authorities-for-planning-applications-affecting-phosphorus-sensitive-river-special-areas-of-conservation/?lang=cy

Y Rheol 28 Diwrnod a Safleoedd Carafanau a Gwersylla Ardystiedig

Mae’r Rheol 28 Diwrnod yn caniatáu i dirfeddiannwr ddefnyddio tir ar gyfer gwersylla pebyll yn unig heb ganiatâd cynllunio ffurfiol am 28 diwrnod mewn blwyddyn galendr. Nid oes angen i’r 28 diwrnod fod yn olynol.

Mae tystysgrif eithrio carafanau gwersylla neu deithiol yn caniatáu i sefydliad hamdden wersylla neu garafanu ar dir heb drwydded safle neu’r angen i wneud cais am ganiatâd cynllunio.

Mae cyfyngiadau ynghylch yr hyn a ganiateir o dan reoliad cynllunio ar gyfer y Rheol 28 Diwrnod a safleoedd carafanau a gwersylla ardystiedig. Nid yw’n caniatáu adeiladu neu osod seilwaith arall, fel blociau toiledau. Os oes gennych unrhyw amheuon, ceisiwch gyngor cyfreithiol neu cysylltwch â’r tîm Rheoli Datblygu.

Y Rheol 28 Diwrnod a Defnydd Dros Dro o dir ar gyfer e.e. digwyddiadau, gwyliau a meysydd parcio

Mae’r Rheol 28 Diwrnod yn caniatáu i dirfeddiannwr ddefnyddio tir dros dro am hyd at 28 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn galendr ar gyfer defnyddiau dros dro penodol a all gynnwys digwyddiadau, gwyliau a meysydd parcio. Nid oes angen i’r 28 diwrnod fod yn olynol ac mae’n cynnwys sefydlu a thynnu unrhyw strwythurau dros dro. Sylwer, os yw’r tir yn cael ei ddefnyddio am fwy na 28 diwrnod, bydd angen caniatâd cynllunio penodol. Os oes gennych unrhyw amheuon, ceisiwch gyngor cyfreithiol neu cysylltwch â’r tîm Rheoli Datblygu.

Mae canllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru’n cynnwys rhagor o fanylion am ddatblygiad a ganiateir a’r defnydd o systemau trin dŵr gwastraff preifat a thoiledau cludadwy – gweler y ddolen ganlynol: https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/business-sectors/planning-and-development/our-role-in-planning-and-development/advice-to-planning-authorities-for-planning-applications-affecting-phosphorus-sensitive-river-special-areas-of-conservation/?lang=cy

SYLWER: Bydd angen i chi roi gwybod i’r Awdurdod Cynllunio Lleol o’ch bwriad i ddefnyddio eich Hawliau Datblygu a Ganiateir o dan y rheol 28 diwrnod bob blwyddyn.

Camau nesaf

Ar gyfer cynigion sy’n cael eu hystyried yn Ddatblygiad a Ganiateir, cynghorir datblygwyr i ofyn am farn Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) yn gyntaf ynghylch a yw’r datblygiad yn debygol o gael effaith sylweddol ar Ardal Cadwraeth Arbennig. Os bydd Cyfoeth Naturiol Cymru’n dod i’r casgliad na fyddai effaith sylweddol debygol, yna gellir ystyried barn Cyfoaeth Naturiol Cymru ar y mater yn bendant. Rydym yn cynghori bod copi o ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru’n cael ei ddarparu i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ar gyfer ein cofnodion.  

Fe’ch cynghorir i gysylltu â Chyfoeth Naturiol Cymru drwy e-bost: mi*********@**********************ov.uk gydag esboniad clir o’ch cynigion a chais penodol eich bod yn gofyn am farn Cyfoeth Naturiol Cymru ar Effeithiau Sylweddol Tebygol ar Ardal Gadwraeth Arbennig yn unol â Rheoliadau 75-77 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd). Cyfeiriad e-bost Cyfoeth Naturiol Cymru yw:  mi*********@**********************ov.uk ac rydym yn awgrymu rhoi teitl i’ch e-bost: “Rheoliadau Hawliau Datblygu/Cynefinoedd a Ganiateir” i gynorthwyo Cyfoeth Naturiol Cymru i brosesu’r cais hwn. Bydd angen i chi roi gwybodaeth i Gyfoeth Naturiol Cymru am unrhyw effeithiau ar Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Er enghraifft, ar gyfer digwyddiadau dylai hyn amlinellu’r ffordd arfaethedig y bydd draenio budr a dŵr llwyd (h.y. o basnau ymolchi, cawodydd, cyfleusterau cegin) yn cael eu rheoli fel rhan o’ch digwyddiad dros dro. Rydym hefyd yn cynghori rhoi manylion i Gyfoeth Naturiol Cymru am leoliad, amseriad a hyd y digwyddiad (gan gynnwys cyfnodau sefydlu a thynnu i lawr), a fydd angen croesfannau cyrsiau dŵr dros dro, a/neu a fydd mynediad cyhoeddus i unrhyw lannau afonydd, e.e. ar gyfer nofio, padlo, canŵio, rasys hwyl a sbri, ac ati.

Pan fo Cyfoaeth Naturiol Cymru o’r farn na ellir diystyru Effaith Sylweddol Debygol, yna rhaid i ddatblygwyr gael cymeradwyaeth ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol cyn i’r datblygiad (gan gynnwys digwyddiadau) ddigwydd er mwyn bwrw ymlaen. Bydd angen i gais am gymeradwyaeth ysgrifenedig roi’ch casgliad i’r Awdurdod ynghylch pam rydych o’r farn nad oes unrhyw effeithiau andwyol ar uniondeb yr Ardal Cadwraeth Arbennig a lefel briodol o wybodaeth, gan gynnwys unrhyw fesurau lliniaru perthnasol. 
Bydd y ffurflen hon a’r siart llif hwn wedi’i ddyfeisio ar gyfer digwyddiadau dros dro yn eich cynorthwyo yn hyn o beth. Bydd y wybodaeth hon wedyn yn llywio Asesiad Priodol yr Awdurdod y bydd angen ymgynghori â Chyfoeth Naturiol Cymru arno, a fydd yn ei dro yn llywio penderfyniad yr Awdurdod o’r cais hwn: Sylwch fod ffi o £30 ar gyfer y cais hwn am gymeradwyaeth ysgrifenedig.

Mae’r broses hon yn ofyniad o Reoliadau 75-77 o Reoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 (fel y’u diwygiwyd) ac fe’i heglurir ar dudalennau 69-73 o Nodyn Cyngor Technegol (TAN) Llywodraeth Cymru 5 Nodyn cyngor technegol (TAN) 5: cadwraeth natur a chynllunio | LLYWODRAETH. CYMRU. Mae hwn yn cynnwys siart llif defnyddiol yn Ffigur 2 o Atodiad 5.