Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol

Mae Canolfan Ymwelwyr y Parc Cenedlaethol yn cynnig mynediad hawdd at amgylchedd yr ucheldir ar Fynydd Illtyd, a chyfle i ddarganfod sut y caiff y Parc Cenedlaethol ei reoli ac (ar ddiwrnod braf) gyfle i weld un o’r golygfeydd gorau o Ben-y Fan ac ar draws y Parc Cenedlaethol. Yn ddiweddar, rydym wedi bod yn datblygu gardd bywyd gwyllt yn y Ganolfan ac mae ein lle chwarae newydd yn rhoi cyfle i blant gael hwyl yn ystod yr egwyl ginio.

Mae caffi a thoiledau ar y safle, cliciwch yma am fwy o wybodaeth am y  Ganolfan Ymwelwyr.