P’un ai os ydych chi’n athro yn chwilio am antur addysgol, yn naturiaethwr amatur, neu’n gerddwr brwd, fe gewch groeso cynnes yma mewn llety cyfforddus, gyda bwyd blasus a golygfeydd ysblennydd.
Dewch i fwynhau lliwiau naturiol bendigedig Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Dyma’ch cyfle i gerdded drwy goetiroedd, ar lannau afonydd, cribynnau uchel a dyffrynnoedd cysgodol. Gall ein tywyswyr gwybodus agor eich llygaid i’r dirwedd, y bywyd gwyllt a’r hanes o’ch cwmpas. Bydd croeso cynnes i chi ddod yn ôl i flasu danteithion lleol gyda’n bwydlen flasus ac amrywiol a threulio’r nos o flaen tanllwyth o dân mewn ffermdy traddodiadol Cymreig. Mae dewis o lety ar gael i fodloni eich holl anghenion, gan gynnwys ystafelloedd mawr a bach gyda chyfleusterau preifat. Rydym yn gwneud ein gorau i fod mor amgylcheddol gyfeillgar â phosib ac yn annog ein gwesteion i wneud yr un peth.
Yma yn Danywenallt, rydyn ni am i chi fwynhau eich ymweliad. Ein nod yw sicrhau eich bod chi a’ch grŵp yn cael profiad diogel a phleserus.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ein dewis o weithgareddau cyffrous (bar llywio, o dan y teitl ‘Beth yw’r cyfleoedd ar gyfer ysgolion’) ar gyfer grŵp oedran cyfnod allweddol dau. Ond, rydyn ni hefyd yn barod i drafod gweithgareddau ar gyfer grwpiau oedran gwahanol a theilwra rhaglenni er mwyn bodloni anghenion penodol eich grŵp. Mae’r holl weithgareddau’n gysylltiedig â’r Cwricwlwm Cenedlaethol. Mae’n gyfle rhagorol i blant ddatblygu eu sgiliau allweddol ac Addysg Bersonol a Chymdeithasol.