Yr wythnos (22 – 28 Ebrill 2024) hon rydym yn ffocysu ar y dosbarth gorau- yr awyr agored
Mae pob math o weithgareddau gennym i ddysgwyr,addysgwyr a rhieni. Ymunwch #WOLW24 a chychwyn cynllunio eich dysgu
Syniadau dysgu gweithredol awyr agored byr i helpu i ddysgu am y gylfinir:
Adeiladu nyth!
Bydd angen:
- Gofod awyr agored gyda deunyddiau naturiol
- Dail a brigau.
Heriwch eich disgyblion i gasglu deunyddiau naturiol i wneud nyth ar gyfer aderyn sy’n nythu ar y ddaear. Gweithio mewn grwpiau neu un tîm mawr!
Ymestyn: Darparu pegiau, tweezers, parau o chopsticks neu ffyn lolipop i’w defnyddio i ddynwared symudiad pig aderyn.
Tynnwch lun o’ch nythod! Faint o bobl allwch chi ffitio yn eich nyth?
Pigo am Fwyd!
Mae gylfinir yn defnyddio eu big hir i brocio trwy fwd meddal i ddod o hyd i’w bwyd.
Bydd angen:
- Trywelion neu rawiau.
Cloddiwch ardal fechan o dir. Faint o fwydod allwch chi ddod o hyd iddynt? Dychmygwch pa mor galed y mae’n rhaid i gylfinirod weithio i gloddio am eu bwyd!
Gêm cuddliw
Mae plu brith y gylfinir yn eu helpu i aros yn ynghudd yn y glaswelltir. Gallwch chwarae gemau i helpu i bwysleisio effeithiolrwydd cuddliw.
Byddwch angen:
- Darnau o wlân o liwiau gwahanol yn ‘fwydod’ a’u rhoi o gwmpas eich ardal allanol.
- Heriwch eich disgyblion i ddod o hyd i’r ‘mwydod’ gwlân.
- Casglwch y mwydod gwlân.
- Cyfrifwch faint o bob lliw.
Gofynnwch pa liwiau oedd yn hawsaf/anoddaf i’w gweld?
Celf Creu Gylfinir
Casglwch ddeunyddiau naturiol i greu collage o gylfinir.
Tynnwch lun o’ch gylfinir!
#LoveOurRivers
#WOLW24 Rydym yn gofyn ddangos eich teyrngarwch i’n hafonydd- gan addo eu caru a gwneud rhai newidiadau bach bob dydd er mwyn helpu ein cenhadaeth i wella safon y dŵr.