Annog ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rinweddau arbennig PCBB
Annog ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o rinweddau arbennig Parciau Cenedlaethol Cymru a thirweddau sydd wedi’u hamddiffyn o fewn ac o gwmpas y Parc Cenedlaethol
Codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo dealltwriaeth ddyfnach ynghylch dibenion, polisïau a gweithgareddau’r Parc Cenedlaethol – sef gwaith yr Awdurdod
Darparu profiad unigryw sy’n benodol i’r parc (awyr agored) nad yw ar gael o unrhyw ffynhonnell arall
Rhoi cyfle i ddysgwyr gael profiad yn ymwneud â dibenion y Parc Cenedlaethol wyneb yn wyneb, yn y parc, ar-lein neu drwy ddeunydd ysgrifenedig
Sicrhau iechyd a diogelwch pob dysgwr/cyfranogwr a chadw safon yr Awdurdod Trwyddedu Gweithgareddau Antur (AALA) fel safon ofynnol. Mae copi o’n Datganiad Rheoli Risg ar gael yma
Rhoi profiad pleserus o’r Parc Cenedlaethol i ddysgwyr
Creu cyfleoedd dysgu i bawb, gan gynnwys pobl nad ydynt wedi cael y fath gyfleoedd yn draddodiadol ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Arddangos egwyddorion cynaliadwyedd drwy ddeunyddiau dysgu ac yn ymarferol, a thrwy gefnogi Eco-ysgolion a chyrraedd a chynnal statws Eco-ganolfannau o ran canolfannau’r Awdurdod Parc Cenedlaethol
Gweithio mewn partneriaeth â phartneriaid mewnol ac allanol i hyrwyddo a gweithredu’r defnydd diogel o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ar gyfer dysgu
Cyfleu i bawb sy’n cael profiad dysgu o fewn ffiniau’r Parc Cenedlaethol eu bod yn y Parc Cenedlaethol
Cefnogi darpariaeth cyfleoedd dysgu yn ac o gwmpas y rhan honno o’r parc sydd wedi’i bennu’n Geoparc
Cwrdd ag anghenion darparwyr dysgu (ysgolion, colegau, canolfannau addysg awyr agored, sefydliadau cyhoeddus, addysgwyr cartref, prifysgolion, grwpiau ieuenctid, oedolion sy’n dysgu) drwy ddatblygu a darparu gwasanaethau dysgu, gan gynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg
Galluogi addysgwyr i ddysgu sut i ddefnyddio’r Parc Cenedlaethol fel man ar gyfer dysgu (h.y. drwy ddiwrnodau hyfforddiant mewn swydd)
Ymgorffori yn y ddogfen hon ymdrechion addysgol cenedlaethol a rhyngwladol (Degawd UNESCO dros Addysg ar gyfer Datblygu Cynaliadwy, Cwricwlwm Cymreig 2008/9) wrth iddynt godi