Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol o ddifrif ynghylch gyrru oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon ac mae gennym bolisi dim goddefgarwch.
Mae’r problemau sy’n gysylltiedig â gyrru oddi ar y ffordd yn cynnwys difrod amgylcheddol a tharfu ar fywyd gwyllt, peryglu a chythruddo defnyddwyr eraill y parc ac effaith negyddol ar dwristiaeth.
Rhoi gwybod i Awdurdod y Parc Cenedlaethol a Heddlu Dyfed Powys am yrru oddi ar y ffordd yn anghyfreithlon
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn croesawu unrhyw wybodaeth ynghylch gweithgareddau anghyfreithlon sy’n ymwneud â gyrru oddi ar y ffordd yn y parc a gallwch gwblhau’r ffurflen ar waelod y dudalen hon er mwyn rhoi gwybod i ni am ddigwyddiadau penodol.
Mae’r wybodaeth rydych yn ei darparu yn bwysig, ac yn ein galluogi ni i greu darlun a defnyddio ein hadnoddau i ganolbwyntio ar ardaloedd sy’n achosi problemau. Bydd y wybodaeth hon hefyd yn cael ei hanfon ymlaen at yr heddlu er mwyn iddynt ymateb ond noder y bydd rhaid i chi gwblhau datganiad tyst ar gyfer Heddlu Dyfed Powys er mwyn i’ch datganiad gael ei ddefnyddio fel tystiolaeth. Pan fyddwch wedi cwblhau’r ffurflen, argraffwch hi a’i phostio i:
PC Rob Griffiths 68
Pencadlys Rhanbarthol Heddlu Dyfed Powys
Plas Y Ffynnon
Ffordd Cambrian
Aberhonddu LD3 7HP