Y Pwyllgor Cynllunio

Mae’r Pwyllgor Cynllunio, Mynediad a Hawliau Tramwy’n cyfarfod bob 6 wythnos ac mae’n gyfrifol am:

  • Wneud penderfyniadau yngl?n â cheisiadau cynllunio.
  • Gorfodi rheolaeth gynllunio.
  • Gwneud argymhellion i’r Awdurdod yngl?n â’r Cynllun Datblygu.
  • Materion polisi sy’n ymwneud â mwynau a gwastraff.
  • Gwneud penderfyniadau i wyro, lledu, creu a diddymu llwybrau cyhoeddus.
  •  Gwneud argymhellion i’r Awdurdod yngl?
  • n â pholisi mynediad a hawliau tramwy.
  • Gwneud penderfyniadau sy’n ymwneud â newidiadau i’r Map Diffiniol hawliau tramwy.
  • Gwneud gorchmynion rheoleiddio traffig dan Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984.
  • Gwneud penderfyniadau dan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy2000.

Mae croeso i’r cyhoedd ddod i’r cyfarfodydd hyn (yn amodol ar unrhyw wybodaeth sydd wedi’i heithrio dan Atodlen 12A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 – Eithrio rhag datgelu dogfennau), a gallwch wneud cais i gael siarad dan Gynllun Siarad yn Gyhoeddus yr Awdurdod

Gall aelodau wneud cais i alw penderfyniad i mewn i’r Pwyllgor Cynllunio, drwy gwblhau “Ffurflen Gais i Alw Penderfyniad i Mewn“.  Dylai unrhyw gais i alw penderfyniad i mewn gael ei wneud cyn pen 15 niwrnod gwaith ar ôl cyhoeddi’r rhestr wythnosol.