Os oes arnoch angen lleoliad ffilmio fydd yn eich syfrdanu, dyma’r lle i chi!
Mae gan Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog rai o’r tirweddau mwyaf ysblennydd ac amrywiol yn Ewrop.
Mae’r Parc Cenedlaethol yn cynnwys Pen-y-Fan, gyda’i gopa pen bwrdd coch nodedig – y copa Hen Dywodfaen Coch uchaf ym Mhrydain – yn ogystal â rhai o’r rhaeadrau, ogofau a cheunentydd coediog mwyaf ysblennydd yn y Deyrnas Unedig. Mae’r dirwedd yn frith o henebion cynhanesyddol, olion Rhufeinig, a chestyll canoloesol.
Medden nhw….
- Diolch yn fawr iawn i’ch staff – mae’r ffilmio wedi rhedeg fel wats. Roedd y lleoliad yn llai na phellter taith hanner diwrnod mewn car o Lundain, rhywbeth oedd yn fantais enfawr. Roedd pawb rydym wedi cwrdd â nhw wedi bod yn ddymunol iawn, roedd y lleoliad yn syfrdanol, a byddem yn sicr yn dod yn ôl eto i ffilmio yn y dyfodol “. Rheolwr cynhyrchu, y ffilm ysgubol, King Arthur).
- “Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn drysor cudd. Roedd yn lleoliad gwych ar gyfer Stardust. Mae’n dirwedd ddramatig gyda golygfeydd ysgubol sy’n berffaith ar gyfer ffilmio, roedd yn bleser ffilmio yno.” Matthew Vaughn – Cynhyrchydd a Chyfarwyddwr Stardust.
Ble rydym ni?
Map rhanbarthol
Lleoliad Ewrop-eang
Cyngor arbenigol
Arbedwch oriau di-rif o waith ymchwil a negodi. Mae ein rheolwyr ardal arbenigol yn adnabod y Parc Cenedlaethol yn dda ac yn gallu delio â’ch holl faterion lleoliad ymarferol yn ogystal â chynnig cyngor, arweiniad a datrys unrhyw broblemau.
Ffioedd (y dydd)
Cysylltwch â swyddfa’r wasg ar 01874 620420. Am ganllaw cyffredinol gweler isod:
- Ffilm nodwedd – o £1,000
- Ffi am y Gwasanaeth Warden – £500 y dydd
- Teledu: Drama/nodwedd/cyfres fach/comedi – £500-£1000
- Rhaglen ddogfen/Plant/Addysg/Ysgolion – £350-£500
- Eitem newyddion – am ddim (gyda chaniatâd)
- Hysbysebu/Ffilm Hyrwyddo – o £1000
- Fideo Gerddoriaeth Bop – £500-£2000
- Cynhyrchu fideo – £250-£1000
- Sesiwn tynnu lluniau – £100-£1000
- Amser staff y Parc Cenedlaethol – £50 yr awr
Sylwch y caiff yr HOLL gyllid a enillir drwy ffilmio ei ail-fuddsoddi ym mhrosiectau amgylcheddol y Parc, fel atgyweirio erydiad mewn mannau ucheldir. Trwy benderfynu ffilmio yn y Parc Cenedlaethol, rydych yn helpu ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.
Peidiwch byth â ffilmio ar dir y Parc Cenedlaethol heb ganiatâd.