Newid hinsawdd

Dros filiynau o flynyddoedd, mae hinsawdd y ddaear wedi bod yn newid yn barhaus. Mae hyn wedi digwydd oherwydd newidiadau yng nghylchdro’r ddaear a’r lleuad, newidiadau o ran faint o wahanol nwyon sydd yn yr aer, yn ogystal â newidiadau yng nghynnyrch egni’r haul. Mae’r newidiadau hyn yn yr hinsawdd wedi bod yn raddol ac mae rhywogaethau wedi gallu gwneud un o ddau ddewis – addasu neu symud.  Fodd bynnag, mae rhywogaethau’n wynebu eu her fwyaf erioed erbyn hyn.

1. Addasu; erbyn hyn, mae hinsawdd y ddaear yn newid mewn cyfnod o ddegawdau neu hyd yn oed blynyddoedd yn hytrach na thros ganrifoedd neu filenia. Nid yw hyn yn rhoi digon o amser i rywogaethau addasu ac esblygu’n raddol i ymdopi â’r newidiadau. Mae ein galw sylweddol am dir wedi gadael llawer llai o fathau unigol o rywogaethau. Mae hyn wedi effeithio ar yr amrywiad genetig sydd ei angen ar bob rhywogaeth i esblygu gan leihau eu gallu i addasu.

2. Symud; eto, mae ein hangen am fwy o dir wedi gadael llawer llai o le i fywyd gwyllt a llawer mwy o rwystrau. Hyd yn oed mewn llecynnau bychain sydd wedi goroesi, maent yn aml wedi’u hynysu gan diroedd trefol neu amaethyddol. Gall rhai rhywogaethau, fel adar a phryfed adeiniog, symud i leoedd eraill. Fodd bynnag, nid yw rhywogaethau eraill fel mamolion bychain a phlanhigion yn gallu symud i yn bell yn rhwydd. Yn y pen draw, os bydd eu cynefin ynysig yn anaddas ar eu cyfer, ni allant symud a byddant yn diflannu’n gyfan gwbl maes o law.

 

Er bod y newid yn yr hinsawdd yn gymhleth ac rydym yn dysgu am fanylion o hyd, rydym yn gwybod y bydd cynefinoedd ac ecosystemau o dan fwy o bwysau nag erioed o’r blaen yn y dyfodol agos. Pwy a ŵyr sut bydd ecosystemau’n ymateb, yn enwedig os ydynt eisoes mewn cyflwr gwael. Ond byddant yn gallu dygymod yn well os ydynt yn cynnwys cynifer o rywogaethau â phosibl a heb fod wedi’u hynysu oddi wrth ei gilydd. Drwy bentyrru bioamrywiaeth a sicrhau bod cynifer o rywogaethau â phosibl yn gallu addasu i’r hinsawdd, byddwn yn rhoi’r cyfle gorau posibl i fioamrywiaeth allu dygymod â newidiadau yn y dyfodol. Os gallwn gynnal ecosystemau tra bod yr hinsawdd yn newid, gallwn barhau i fwynhau’r gwasanaethau ecosystem maent yn eu darparu.

Darllenwch fwy am newid hinsawdd a’r Parc Cenedlaethol.