Gwarchodaeth y Gylfinir

Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn rhan o bartneriaeth o’r enw Gylfinir Cymru, sydd wedi derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Dreftadaeth y Loteri er mwyn cymryd camau i atal y gylfinir rhag difodiant led led Cymru. Cyhoeddwyd bod bron i £1 o bunnoedd ar gael i arianni adferiad y gylfinir mewn tair ardal allweddol ar hyd Cymru.

Rhywogaeth eiconig yw’r gylfinir (Numenius arquata) ac fe gyfeirir ati mewn hanes, diwinyddiaeth, llenyddiaeth a’r celfyddydau. Mae eu galwad yn un atgofus sy’n cynrychioli dyfodiad y gwanwyn. Y gylfinir yw aderyn hirgoes mwyaf y DU, mae’n frown gyda phlu brith. Mae ganddi big crwm hir nodweddiadol a choesau hir. Mae ei galwad byrlymog yn sŵn hyfryd a digamsyniol sy’n diflannu o’n tirwedd.

Mae’r gylfinir yn rhywogaeth ambarél, (neu bioindicator yn Saesneg) sy’n golygu, os ydym yn eu gwarchod, bydd ystod o rywogaethau a chynefinoedd eraill yn elwa hefyd. Mae’r gylfinir yn cynrychioli iechyd cyffredinol yr ecosystem.

Mae’r gylfinir yn dod i’r Parc Cenedlaethol i fagu yn ystod misoedd y gwanwyn a’r haf. Maent yn ymgasglu mewn mannau megis glandiroedd mwdlyd Llyn Llangors er mwyn gwella eu cyflwr cyn cyplu (maent yn adar ffyddlon) yn eu mannau magu traddodiadol yn Nyffryn Wysg. Maent yn dychwelyd i’r un mannau magu bob blwyddyn. Ei hoff fannau yw’r dolau traddodiadol i ffwrdd o goetiroedd ac anifeiliaid ysglyfaethus. Unwaith iddynt fagu plu, mae’r adar ifanc a’r oedolion yn dychwelyd i’r arfordir lle maent yn treulio misoedd y gaeaf yn chwilota am fwyd ar hyd y glannau a’r aberoedd mewn hinsawdd weddol addfwyn.

Mae’r gylfinirod yn rhan annatod o ecosystem y Parc Cenedlaethol ac rydym wedi ymgymryd â llawer o waith er mwyn eu gwarchod.

Rydym wedi rhoi arian i Ganolfan Wybodaeth Bioamrywiaeth Gorllewin Cymru er mwyn iddynt gynnal y gwaith o fapio dewisiadau cynefinoedd ar gyfer “Ardal Bwysig y Gylfinir” (Important Curlew Area neu ICA yn Saesneg) ar draws Dyffryn Wysg i gyd er mwyn nodi pa ardaloedd sy’n addas i ni eu defnyddio er mwyn canolbwyntio ein gwaith o adfer y gylfinir.

Rydym wedi ariannu a sicrhau cyflogaeth Cofnodwr Adar y Sir i gynnal arolygon o ylfinirod yn Ardal Bwysig y Gylfinir am ddau dymor magu sef, 2022 a 2023. Mae’r Cofnodwr wedi bod yn gweithio gyda’r gwirfoddolwyr a’r tirfeddianwyr i sicrhau bod pob achos o weld yn cael ei gofnodi fel y gallwn ddeall sut y mae’r gylfinir defnyddio’r dirwedd.

Rydym wedi cael gafael ar nawdd gan Leoedd Lleol ar gyfer Natur er mwyn prynu 11 set o ffensys electronig sy’n cadw ysglyfaethwyr allan.

Rydym yn aelod o Gylfinir Cymru (partneriaeth Gymreig y gylfinir) sy’n cyfarfod yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Adfer y Gylfinir yn cael ei weithredu drwy ddefnyddio arbenigedd a chyngor o Gymru gyfan.

  • Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Phrifysgol De Cymru i gynnal arolygon o leoliadau nythod y gylfinir drwy ddefnydd dronau mewn ardaloedd penodol. Mae myfyriwr MSc hefyd yn cynnal arolwg o ylfinirod mewn lleoliad penodol o fewn Ardal Bwysig y Gylfinir fel rhan o’i thesis.
  • Rydym yn gweithio ochr yn ochr â thîm Pedair Afon am Oes Cyfoeth Naturiol Cymru i nodi lle y gallwn gymryd camau ar y cyd i roi rheolaeth tir briodol a chynaliadwy ar waith ledled Dalgylch yr Wysg.
  • Rydym wedi dod o hyd i rywfaint o arian drwy (Sustainable Landscapes, Sustainable Places neu SLSP yn Saesneg) i wneud gwaith cyfalaf mewn ardaloedd penodol ac i gefnogi ffermwyr.
  • Rydym wedi bod yn llwyddiannus yn ein cais i Sykes Holiday Cottages am arian nawdd i gynhyrchu gohebiaeth fydd yn codi ymwybyddiaeth o’r gylfinir ac yn hybu ymddygiad cyfrifol.
  • Rydym wedi bod yn llwyddiannus mewn cais ar y cyd (gydag AHNE Bryniau Clwyd, AHNE Dyffryn Dyfrdwy a Gwlad y Gylfinir, dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Cadwraeth Helwriaeth a Bywyd Gwyllt) i Nature Networks ar gyfer prosiect sy’n rhychwantu hyd at saith Ardal Bwysig y Gylfinir ledled Cymru. Enw’r prosiect hwn yw Cysylltiadau’r Gylfinir (Curlew Connections yn Saesneg) a bydd yn cyflogi swyddog am hyd at dair blynedd i weithio gyda ffermwyr a chymunedau i wneud gwaith adfer y gylfinir mewn dau o Ardaloedd Pwysig y Gylfinir sef Dalgylch Wysg a Llyn Syfaddan.

Er mwyn dysgu rhagor am y gwaith arfaethedig, ewch at ein hadran Cwestiynau a Holir yn Aml.