Gwarchodaeth y Gylfinir – Cwestiynau a Holir yn Aml

Mae’r gylfinir yn aderyn poblogaidd, sydd a chri eiconig ac a glywir yn y  Parc Cenedlaethol. Ers nifer o flynyddoedd rydym wedi bod yn gweithio i warchod y gylfinir a’i chynefin ac mae gennym rai datblygiadau cyffrous ar y gorwel. Mae llawer o bobl yn rhannu ein hangerdd am y gylfinir ac wrth i ni gychwyn ar gam nesaf ein gwaith gylfinir, rydym wedi cynhyrchu Cwestiynau Cyffredin i rannu ein cynlluniau.

Ble o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fyddwn ni’n gweithio?

Dalgylch yr afon Wysg ac Ardal Bwysig y Gylfinir Llyn Syfaddan fydd prif faes ffocws y prosiect. Dyma lle mae’r rhan fwyaf o gofnodion y gylfinir wedi’u lleoli. Nid yw hynny’n golygu na fyddwn yn ystyried gweithio gyda’r gylfinir y tu allan i’n hardal. Dynodwyd y maes ffocws yn “Ardal Bwysig y Gylfinir” (ICA), un o 12 ledled Cymru. Bannau Brycheiniog yw’r sefydliad arweiniol ar gyfer Dalgylch y Wysg a Llyn Syfaddan.

Beth yw Cadw Wyau?

Mae cadw wyau yn strategaeth dros dro i achub y gylfinir nes bod mesurau mwy cymhleth ar waith. Mae’n golygu tynnu wyau o’u nythod a’u gosod mewn unedau deor. Wedi’r cyfnod hwn yn yr uned artiffisial maent yn deor ac yn cael eu symud i gorlannau cyn iddynt gael eu rhydau yn ôl i’w cynefin naturiol. Nid yw’r strategaeth cadw wyau yn digwydd yng Nghymru eto er bod trafodaethau ar waith hi ystyried dichonoldeb y strategaeth ymyrraeth sylweddol hon (curlewwales.org).

Fyddwn ni’n gwneud yr un peth gyda chywion gylfinir?

Na fyddwn, nid yn syth bin. Un o amcanion y prosiect yw cael dealltwriaeth ddyfnach o beth yn union sydd ei hangen ar ein gylfinirod cyfredol o ran y dirwedd a sicrhau bod cynefin addas ar gael ar eu cyfer. Nid yw hwn yn golygu na fyddwn yn cadw wyau yn y dyfodol, ond rydym yn bod yn rhagofalus wrth ystyried y dull cadw wyau, ac mae ein hystyriaethau yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael.

Pwy fydd yn gweithio gyda ni?

Byddwn yn gweithio ar y cyd â’n partneriaid prosiect (AHNE Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy, Ymddiriedolaeth Cadwraeth Cefn Gwlad, Helwriaeth a Bywyd Gwyllt y Gylfinir) yn ogystal â sefydliadau cadwraeth, ymchwilwyr, y gymuned ffermio, pobl ifanc ac arbenigwyr mewn prosiectau adfer y gylfinir.

Beth fydd Swyddog y Gylfinir a Phobl yn ei wneud?

Bydd Swyddog y Gylfinir a Phobl yn gweithio gyda thirfeddianwyr a rheolwyr, ffermwyr, cymunedau lleol a phartneriaid eraill er mwyn monitro a darparu gwaith cadwraeth penodol wedi eu hanelu at gynyddu cynhyrchiant y cywion er mwyn cynnal poblogaethau hyfyw o’r gylfinir o fewn y tirlun hwn.

Sut mae pethau i’r gylfinir ar hyn o bryd?

Os ydym yn parhau fel pe na bai problem ac yn peidio â gwneud unrhyw waith cadwraeth, mae disgwyl y bydd y gylfinir sy’n magu yng Nghymru ar drothwy difodiant erbyn 2030. Mae’n rhaid i ni weithredu nawr. I

Ymhlith y ffactorau lleol sy’n effeithio ar boblogaethau ein gylfinirod mae adar a mamaliaid ysglyfaethus sy’n dwyn wyau a nythod, y weithred o dorri silwair yn gynnar, cerddwyr gyda chŵn oddi ar dennyn yn tarfu ar y gylfinir, diffyg porfa barhaol, ungnwd, draeniad tir (diffyg porfa laith i gywion y gylfinir chwilota ynddi), plannu coed. Mae’r ystod hon o ffactorau yn amlygu’r heriau yr ydym yn eu hwynebu wrth adfer y gylfinir, ond rydym yn barod i ymgymryd â’r her hon gyda chefnogaeth partneriaid, ffermwyr, arbenigwyr, gwirfoddolwyr, a dinasyddion-wyddonwyr – heb gymorth pawb, ni all y prosiect hwn lwyddo.

Sut allwn atal dirywiad y gylfinir?

Nid oes un ateb yn unig i’r cwestiwn hwn. Mae angen ystod o ymyriadau er mwyn cyflawni eu hanghenion ecolegol a bydd angen i ni weithio ar raddfa o dirwedd gyfan. Rydym yn ceisio creu llun o fywyd y gylfinir ar hyn o bryd ac yn edrych ar y gwahanol ffactorau sy’n effeithio eu goroesiad. Bydd gweithio ochr yn ochr â ffermwyr er mwyn eu hannog i ddewis mesurau sy’n helpu’r gylfinir i adfywio’n rhan fawr o’n gwaith.

Beth allaf i ei wneud er mwyn helpu’r cynllun Cysylltiadau’r Gylfinir (Curlew Connections)?

Unrhyw bryd rydych yn gweld y gylfinir anfonwch y wybodaeth at curlew@beacons-npa.gov.uk neu defnyddiwch yr ap LERC Wales App – Record any species on the go.

Beth yw’r fantais o ofalu am y gylfinir?

Drwy gymryd cyfrifoldeb dros ofynion ecolegol y gylfinir, gallwn wella cyfleoedd ar gyfer ystod eang o rywogaethau eraill yn ogystal â gwella cynefinoedd glaswelltiroedd sydd yn ei dro yn gwneud lles i ystod o fuddiannau cyhoeddus megis dal a storio carbon, storio dŵr a rheoli llif.

Er mwyn dysgu rhagor am ein gwaith gyda’r gylfinir CLICIWCH FAN HYN