- Amlygu cyfleoedd, gan gynnwys cynlluniau grant sydd ar gael drwy Cyfoeth Naturiol Cymru.
- Cynghori am reoli bywyd gwyllt a chynefinoedd.
- Ymgynghori â’r Llywodraethau Genedlaethol a Llywodraeth Ewrop er mwyn argymell sut dylai polisïau gael eu newid yn unol â dibenion y Parc Cenedlaethol, gan gynnwys cynorthwyo cymunedau lleol.
- Ymgynghori â’r gymuned ffermio am weithrediadau a pholisïau er mwyn rhoi cyfle iddynt leisio eu barn am sut gellir eu newid ymhellach i hyrwyddo dibenion y Parc Cenedlaethol.
- Bod yn gyfrifol am reoli tir sy’n berchen i’r awdurdod neu’n cael ei reoli ganddo ar lawr gwlad.
- Cynghori a chyfrannu at gynnal a chadw hawliau tramwy.
- Rhoi cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth gan gynnwys cyflwyno ceisiadau am grantiau amaethyddol-amgylcheddol i reoli tir yn gynaliadwy.
I ofyn cwestiwn ecolegol neu gynefinol, cysylltwch â Paul Sinnadurai neu
Gareth Ellis
I ofyn cwestiwn am hawliau tramwy, cysylltwch ag Eifion Jones