Ymunwch â Helfa Gnau De Cymru

Mae pathewod yn greaduriaid eithaf bychan sy’n pwyso tua’r un faint â dau ddarn arian £1. Maent yn euraidd llachar o ran eu lliw ac mae ganddynt gynffon blewog trwchus a llygaid mawr du. Mae pathewod yn wahanol iawn i famolion eraill ond maent yn greaduriaid y nos felly go brin y dewch ar eu traws wrth fynd am dro yng nghefn gwlad.

 

Nid ydym yn gwybod rhyw lawer o hyd am ddosbarthiad pathewod yn lleol yn y de ac mae arnom angen cymorth gwirfoddolwyr a grwpiau cymunedol i wneud rhywfaint o waith ditectif. Rydym am i bobl fynd allan i chwilio am fasglau cnau collen sydd wedi’u gadael yn eu coetiroedd lleol ac ar hyd cloddiau. Fel llawer o famolion bychain eraill, mae pathewod yn bwyta cnau collen ond maent yn eu hagor mewn modd penodol gan adael marciau unigryw ar y fasgl. Gyda rhywfaint o ymarfer, gall gwirfoddolwyr ddysgu sut i amlygu pa gnau mae pathewod wedi’u hagor.

 

Mae Arolwg Pathewod De Cymru yn brosiect ar y cyd rhwng 14 awdurdod lleol yn y de, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent, Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru a Chyngor Cefn Gwlad Cymru.

 

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi paratoi pecyn gwybodaeth ar gyfer Arolwg Pathewod sy’n rhoi’r holl wybodaeth sydd ei hangen ar wirfoddolwyr i gymryd rhan yn yr arolwg. Mae ail becyn arolwg wedi’i baratoi hefyd sy’n rhoi awgrymiadau am sut i drefnu helfa gnau yn rhan o ddigwyddiad gan ysgol neu grŵp cymunedol. Cynhelir nifer o ddigwyddiadau hyfforddi ar draws yr ardal hefyd. 

Mae croeso i bawb. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw lawrlwytho copi o Pecyn Arolwg Pathewod De Cymru.

Beth am drefnu helfa gnau ar gyfer eich ysgol neu grŵp cymunedol? Cewch lawrlwytho copi o Pecyn Arolwg Pathewod De Cymru i Grwpiau.

Yn lle gorfod ymdopi â phocedi llawn, cewch lawrlwytho ac argraffu ein bag hel cnau defnyddiol i gadw beth fyddwch yn ei ddarganfod.