Bioamrywiaeth Ar Waith yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am nifer o rwymedigaethau cyfreithiol a rhyngwladol ynghylch cadwraeth bioamrywiaeth.

Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru yw ymgynghorydd allweddol y Llywodraeth ar faterion yn ymwneud â bioamrywiaeth ac mae’n goruchwylio cadwraeth bioamrywiaeth yng Nghymru.

Caiff Bioamrywiaeth Ar Waith yn Lleol ei arwain gan gyfres o Grwpiau Ecosystem Bioamrywiaeth Cymru. Mae’r rhain yn ymdrin â materion ynghylch cynefinoedd a rhywogaethau ar lefel Cymru er mwyn darparu trosolwg integredig, gwybodus ac annibynnol o anghenion cadwraeth ecosystemau a bioamrywiaeth.

Mae’r Grwpiau Arbenigol ar Ecosystemau a Rhywogaethau yn rhoi cyngor annibynnol i Lywodraeth Cymru, awdurdodau statudol ac eraill sydd â chyfrifoldebau sy’n effeithio ar fioamrywiaeth. Maent yn cryfhau’r mecanwaith weithredu rhwng Grwpiau Ecosystem a phartneriaethau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol ar lefel Cymru/grwpiau bioamrywiaeth rhanbarthol.

Mae Cynlluniau Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol wedi’u creu ar gyfer gweddill ardaloedd yr Awdurdodau Lleol sydd y tu allan i weinyddiaeth y Parc Cenedlaethol: