Digwyddiadau Hamdden, Chwaraeon a Her yn y Parc Cenedlaethol
Mae’r Parc Cenedlaethol wedi cael ei ddefnyddio ers amser maith fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau hamdden, chwaraeon a her a drefnir. Mae mwyafrif y digwyddiadau hyn yn cynnwys cerdded, rhedeg a chyfeiriannu, gan gynnwys nifer fawr o gyfranogwyr yn aml.
Mae rhai digwyddiadau o’r math yma angen caniatâd perchennog y tir, gan nad oes posib dibynnu bob amser ar hawliau tramwy i gyfiawnhau cynnal y digwyddiad. Er enghraifft, ar “dir mynediad”, hynny yw, tir y mae gan y cyhoedd hawl i gael mynediad iddo ar droed fel y diffinnir gan Adran 1(1) Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2000/37/section/1) , mae angen caniatâd perchennog y tir oherwydd mae cymryd rhan yn y canlynol wedi’i gyfyngu:
- gemau a drefnir;
- gweithgareddau a drefnir neu y cymerir rhan ynddynt at bwrpas masnachol
Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u cynnwys yn y rhestr o gyfyngiadau yn Atodlen 2 Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (http://www.legislation.gov.uk/ukpga/2000/37/schedule/2).
Mae’r tir yn y Parc Cenedlaethol yn eiddo i amrywiaeth eang o berchnogion. Mae’r rhain, er enghraifft, yn cynnwys Awdurdod y Parc Cenedlaethol, Dŵr Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, stadau preifat a pherchnogion tir unigol.
Os hoffech drefnu digwyddiad ar dir yn y Parc Cenedlaethol, mae’r Awdurdod wedi paratoi’r canllawiau canlynol a fydd yn dweud wrthych chi beth ddylech ac na ddylech ei wneud wrth drefnu’r digwyddiad. Mae llawer o ganllawiau da eraill ar gael ond mae’r rhain yn fwy penodol i’r Parc Cenedlaethol.
Mae Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn berchen ar lawer iawn o dir yn y Parc Cenedlaethol. Gellir gweld manylion ei ddaliadau ar y map yma ac yn y ffeil .shp yma.
Os hoffech drefnu digwyddiad ar unrhyw ddarn o’r tir y tynnir sylw ato ar y map hwn, cysylltwch ag Awdurdod y Parc Cenedlaethol ar e-bost. Yn ychwanegol at y Canllawiau, ceir proses a ddefnyddir gan yr Awdurdod i benderfynu a ddyfernir caniatâd ar gyfer eich digwyddiad ai peidio. Bydd angen cais ffurfiol a bydd rhaid iddo fodloni meini prawf penodol ac ystyried amrywiaeth o faterion. Gan ddibynnu ar faint y digwyddiad, bydd ffi’n cael ei chodi hefyd. Ni fydd digwyddiadau bach yn gorfod talu ffi. Po fwyaf yw’r digwyddiad, y mwyaf cymhleth fydd gofynion y cais.
Dim ond i dir sy’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol mae’r broses hon yn berthnasol. Efallai y bydd gan berchnogion tir eraill eu prosesau eu hunain.
Nid yw Awdurdod y Parc Cenedlaethol yn cadw gwybodaeth am berchnogion tir yn y Parc Cenedlaethol. Felly awgrymir bod trefnydd y digwyddiad yn gwneud ei ymholiadau ei hun os yw’n dymuno defnyddio tir ar wahân i dir sy’n eiddo i Awdurdod y Parc Cenedlaethol.