Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnwys amrywiaeth eang o gefn gwlad hardd. Mae tirwedd y Parc yn cael ei dominyddu gan y bryniau a’r mynyddoedd agored, ond mae mwy i’r Parc Cenedlaethol na chopaon uchel.
Mae’r iseldiroedd yr un mor eithriadol ac yn cynnwys rhaeadrau cudd, tir fferm tonnog, afonydd troellog ac ardaloedd coediog, sy’n barod i gael eu harchwilio.
Mae’r tirwedd amrywiol yn golygu bod rhywbeth i bawb. P’un ai eich bod chi’n mwynhau’r her o gerdded mynyddoedd neu fod yn well gennych fynd am dro trwy gaeau a choetiroedd, neu ger camlas neu afon, cewch ddigon i’w wneud. Mae rhwydwaith helaeth o hawliau tramwy cyhoeddus yn gorchuddio mwy na 1,980 cilometr (llwybrau, llwybrau ceffylau a chulffyrdd) yn y Parc, sy’n caniatáu i ymwelwyr archwilio’r ardal ar droed, ac ar gefn ceffyl neu ar feic.
Gallwch hefyd gerdded yn rhydd ar draws ardaloedd mawr o’r Parc Cenedlaethol o ganlyniad i Mynediad Agored a Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy.
Parchu, Gwarchod a Mwynhau Cefn Gwlad
Mae’r Cod Cefn Gwlad yn rhoi cyngor i ymwelwyr â chefn gwlad, ffermwyr a pherchenogion tir. Os byddwch yn dilyn y Cod Cefn Gwlad, byddwch yn gwneud y gorau o’ch ymweliad ac yn diogelu cefn gwlad ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.