Cerdded

Mae’r teclyn wedi’i rannu i 3 adran:

Adran A: Cyflwyniad

Adran B: Dechrau Arni

Adran C: Datblygu a Gwerthuso eich Taith Gerdded

Atodiadau:

  1. Rhestr wirio cyn dechrau
  2. Rhwydwaith Llwybrau Blaenoriaethol

Sut mae’r teclyn hwn yn gweithio.

Mae’r teclyn hwn yn gasgliad o adnoddau mae modd eu defnyddio fel cymorth gyda thasg. Does dim rhaid i chi ei ddarllen o glawr i glawr fel y cyfryw – gallwch bori drwyddo a dewis beth sydd o werth, fel y mynnoch.

Gall y teclyn gael ei ddefnyddio yn union fel gwefan, unai drwy ddefnyddio’r botymau llywio ar waelod pob tudalen, neu drwy glicio ar y geiriau wedi’u hamlygu yn las.

Mae’r rhan fwyaf o adrannau yn cynnwys blwch ‘Gwybodaeth Ddefnyddiol’. Mae modd cael at y cyfeiriadau gwe yn syth gyda chlic o’ch llygoden, cyn belled â’ch bod ar-lein wrth ddefnyddio’r teclyn.

PEIDIWCH Â PHOENI!

Ar yr olwg gyntaf, gall peth o’r gwaith edrych yn fanwl ac yn gymhleth iawn, ond ni fydd yr holl gynnwys yn berthnasol i chi. Defnyddiwch beth rydych chi ei angen, gan neidio i’r adrannau sy’n berthnasol ac yn ddefnyddiol. Yr un peth sy’n hollbwysig i bob prosiect ydy SIARAD â’r holl bobl berthnasol. Cofiwch, drwy gasglu grŵp gwaith da at ei gilydd, gallwch rannu tasgau a’i gwneud hi’n haws i bawb.

Diolchiadau

Mae’r teclyn hwn wedi defnyddio deunyddiau a chyhoeddiadau am lwybrau troed wedi’u cynhyrchu gan amryw o sefydliadau gan gynnwys Ymddiriedolaeth Gwirfoddolwyr Cadwraeth Prydain, Paths for All, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Cefn Gwlad Cymru a beth oedd yr Countryside Commission. Hoffem ddiolch i’r holl sefydliadau hynny am y syniadau a’r ysbrydoliaeth y cawsom o’u gwaith, ynghyd â’r sawl niferus sydd wedi dylanwadu ein ffordd o fynd ati gyda’r teclyn hwn mewn unrhyw ffordd.

Pwysig

Cofiwch fod pob canllaw yn y teclyn hwn yn gyffredinol, ac os ydych ag unrhyw amheuaeth, dylech geisio cyngor arbenigol neu gyfreithiol.