Mae’n hanfodol bod eich grŵp yn cadw rheolaeth gyffredinol o’ch prosiect cerdded. Os yw’ch taith yn cynnwys mwy na chyferbwyntio syml, efallai y byddai’n syniad da i benodi rheolwr prosiect gwirfoddol neu gael tîm o bobl yn rhannu’r cyfrifoldebau o ddelio â chontractwyr, er enghraifft, a chadw i’r amserlen. Y peth pwysicaf yw cadw golwg ar y cynnydd drwy lunio, cytuno ar ac yna monitro cynllun gweithredu sydd ag amserlen a therfynau amser yn perthyn iddo.
Cynllun gweithredu
Gosodwch amserlen realistig i gwblhau’r prosiect. Gweithiwch yn ôl o’r dyddiad gorffen a chynllunio beth rydych chi angen ei wneud bob wythnos/mis. Os ydych chi’n cynnwys unrhyw ddehongliad, mae’n rhaid iddo gael ei ddylunio a’i adeiladu er mwyn iddo gael ei osod tra bod eich grŵp gweithio, neu gontractwyr ar y safle (gweler y Teclyn Dehongli). Mae yna berygl o wastraffu amser ac arian yn eu gosod ar wahân. Penderfynwch ar y drefn rydych chi am gwblhau’r tasgau a gosod terfyn amser ar gyfer cyflawni’r tasgau. Defnyddiwch hyn fel sylfaen ar gyfer Cynllun Gweithredu. Bydd eich cynllun yn gadael i chi fesur eich cynnydd.
Mae chwe mis yn amserlen sylfaenol realistig er mwyn cwblhau’r daith gerdded, o’r cynllunio cychwynnol i osod y celfi a’r lansiad swyddogol. Neilltuwch amser ar gyfer trafod tynnu rhwystrau a materion eraill. Peidiwch â thanamcangyfrif yr amser fydd ei angen a gwnewch yn siŵr eich bod yn cofnodi bob cam o’r prosiect er mwyn bodloni unrhyw anghenion cyllid. Gwnewch yn siŵr bod y gwaith sy’n cael ei gyflawni yn cyfateb i’r manylebau gwreiddiol.
Cynlluniwch y dyddiadau lansio ar y dechrau, bydd hyn yn rhoi targed i chi anelu amdano ac yn cynnal momentwm y prosiect.
Bydd digwyddiad lansio hefyd yn sicrhau cyhoeddusrwydd ac yn denu pobl i ddefnyddio’r daith.