Mae’n angenrheidiol bod eich grŵp yn cadw rheolaeth gyffredinol dros eich prosiect taith gerdded. Os yw’ch taith yn fwy o beth na chyferbwyntio syml, efallai y byddai’n syniad i chi benodi rheolwr prosiect gwirfoddol neu gael tîm o bobl yn rhannu cyfrifoldebau fel delio â chontractwyr, a chadw i’r amserlen. Y peth pwysicaf yw cadw cofnod o’ch cynnydd, drwy ddylunio cynllun gweithredu gydag amserlen a therfynau amser ynghlwm wrtho, yna cytuno arno, a’i fonitro.
Cynllun gweithredu
Gosodwch amserlen realistig ar gyfer cwblhau’r prosiect. Dechreuwch gyda’r dyddiad gorffen a gweithio’n ôl o hynny, gan bennu beth sydd angen ei wneud bob wythnos/mis. Os ydych chi’n cynnwys unrhyw ddehongliad, mae’n rhaid i hwnnw gael ei ddylunio a’i adeiladu er mwyn iddo gael ei osod tra bod eich tîm o weithwyr, neu gontractwyr, ar y safle (gweler Teclyn Dehongli). Bydd amser ac arian yn cael eu gwastraffu os ydych chi’n eu gosod ar wahân. Penderfynwch ar y drefn y bydd angen cwblhau’r tasgau a dewis terfyn amser ar gyfer eu cyflawni. Defnyddiwch hyn fel sylfaen ar gyfer Cynllun Gweithredu. Bydd eich cynllun gweithredu yn gadael i chi fesur eich cynnydd.
Chwe mis yw’r raddfa amser realistic lleiaf ar gyfer cwblhau taith gerdded, o’r cynllunio cychwynnol i osod yr eiddo a’r lansiad swyddogol. Neilltuwch amser ar gyfer trafodaethau dros symud unrhyw rwystrau a phroblemau eraill. Ta beth y gwnewch chi, peidiwch ag amcangyfrif yr amser yn rhy isel a gwnewch yn siŵr eich bod yn cofnodi bob cam o’r prosiect er mwyn cyfarfod unrhyw ofynion nawdd. Sicrhewch fod y gwaith sy’n cael ei wneud yn cyfateb i’r manylion gwreiddiol.
Cynlluniwch y dyddiadau lansio ar y dechrau, gan y bydd hyn yn gosod targed i chi anelu ato, ac yn cynnal momentwm y prosiect.
Mae digwyddiad lansio hefyd yn dod â chyhoeddusrwydd a bydd yn denu pobl i ddefnyddio’r daith gerdded.