Adran D: Cyflwyniad

Sut mae’r pecyn hwn yn gweithio

Mae’r pecyn hwn yn gasgliad o adnoddau y gallwch eu defnyddio er mwyn helpu i gyflawni tasg. Nid oes rhaid ei ddarllen o glawr i glawr, mae modd i chi ei ddefnyddio yn ôl eich anghenion.

Mae’r rhan hwn o’r pecyn wedi’i rhannu yn 3 adran:

D.    Cyflwyniad i Ddehongli

Cyflwyniad i ddehongli a throsolwg o broses cynllunio prosiect dehongli.

E.    Dechrau Arni : Cynllunio eich Prosiect Dehongli

Esbonio’r broses o gynllunio prosiect dehongli’n fwy manwl, gyda chyngor a rhestr wirio yn ogystal â rhai enghreifftiau o ddehongli effeithiol.

F.    Bwrw Ymlaen : Rhoi eich Prosiect Dehongli ar Waith

Delio â rhoi eich prosiect dehongli ar waith. Ceir gwybodaeth am astudiaethau achos Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae hefyd yn cynnwys atodiadau sy’n rhoi mwy o wybodaeth am ddeunyddiau a nodwyd yn Adrannau E ac F.

Astudiaethau achos:

  • Grŵp Treftadaeth Govilon
  • Taith Gerdded Henry Vaughan
  • Ffair Haf Ystradowen a Ward Llynfell
  • Ffair Gwanwyn Gwynfe

Diolchiadau

Mae’r pecyn hwn wedi defnyddio deunyddiau a chyhoeddiadau am ddehongli a gynhyrchwyd gan amryw o sefydliadau ac unigolion gan gynnwys Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Partneriaeth Twristiaeth Canolbarth Cymru, Bwrdd Twristiaeth Cymru, HERIAN, Dehongli Cymru, Scottish Natural Heritage, the Scottish Interpretation Network, yr hen Gomisiwn Cefn Gwlad, Dyfrffyrdd Prydain, the Association for Heritage Interpretation, the Centre for Environmental Interpretation, Cyngor Swydd Amwythig, Freeman Tilden, Sam Ham, John Ververka, Suzanne Trapp, Michael Gross a Ron Zimmerman, Gwasanaethau Cefn Gwlad Swydd Northampton, Nene Valley Project, Touchstone Heritage Management ac Anglezarke Dixon Associates. Hoffem ddiolch i’r holl sefydliadau ac unigolion hyn am y syniadau a’r ysbrydoliaeth sydd wedi codi o’u gwaith a’u cyhoeddiadau ynghyd â’r llawer o unigolion eraill sydd wedi dylanwadu ar ein hymdriniaeth â dehongli mewn unrhyw ffordd.