Chwarae Teg yn y Parc

Gall y prosiect Chwarae Teg yn y Parc gefnogi grŵp i fynychu digwyddiadau’r Parc Cenedlaethol drwy gynnig:

  • Cymorth ariannol e.e. costau teithio
  • Gwybodaeth – rhoi cyngor i grwpiau a chynnig syniadau ar gyfer ymweliadau grŵp
  • Cymorth ymarferol – e.e. darparu arweinydd ar gyfer taith gerdded neu sesiwn weithgareddau
Mae Chwarae Teg yn y Parc yn brosiect i alluogi plant a phobl ifanc, sy’n gymwys ar gyfer cael cefnogaeth ariannol gan lywodraeth leol, i fynychu digwyddiadau a drefnir gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a phrofi’r holl fuddiannau mae ein tirwedd anhygoel yn eu cynnig.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni ar 01874 624437 neu anfonwch e-bost at communities@beacons-npa.gov.uk