Mae olion Gwaith Powdr Gwn Glyn-nedd, un o ddim ond dau o’i fath yng Nghymru gyfan, yn glynu’n sownd wrth ochrau serth ceunant Mellte. Roedd cynnyrch y gwaith yn hanfodol i’r twf mewn diwydiant a ddigwyddodd yn ne Cymru yn ystod y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif. Er i’r adeiladau gael eu dinistrio’n rhannol adeg cau’r gwaith yn 1931, mae’r adfeilion sy’n weddill yn dyst i oruchafiaeth dyfeisgarwch dynol, a greodd un o’r mannau gweithio mwyaf eithriadol ym Mhrydain. A’r safle bellach mewn cyflwr peryglus o wael, mae gofid gwirioneddol y gellid colli’r safle a’i ecoleg o bwysigrwydd byd-eang, am byth.
Bwriad y prosiect yw sicrhau dyfodol hirdymor y gwaith drwy wneud gwaith cadwraethol ar yr adeiladau a dod â stori’r safle, ei weithwyr, a’i effaith ehangach, yn fyw eto. Ein gweledigaeth yw gweld trigolion ac ymwelwyr yn dathlu’r safle unwaith yn rhagor, a chael mwy o ymwelwyr i ddeall a mwynhau’r dreftadaeth hanesyddol, yn ogystal â’r bywyd gwyllt prin sydd i’w weld yma.
Mae’n rhaid wrth lawer o bartneriaid i gyflawni gwaith ar brosiect mor eang ei rychwant, ac uchelgeisiol. Er mai Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog fu’r partner blaen, cafodd y prosiect fewnbwn hanfodol gan Gymdeithas Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru, y gymuned leol ac Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed Powys, i enwi ond rhai.
Rydym ni’n ddiolchgar am gefnogaeth ariannol oddi wrth Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn ogystal ag Ymddiriedolaeth Bannau Brycheiniog, y Gronfa Ddatblygu Gynaliadwy, Cadw, Cyfoeth Naturiol Cymru ac Ymddiriedolaeth Gibbs; ni fyddai’r prosiect wedi bod yn bosib heb eu cefnogaeth hwy.
Er mwyn cyflawni popeth a ddymunwn, mae gennym 21 elfen – oes wir – i’n rhaglen waith.
Yn ogystal ag achub yr adfeilion, mae’r prosiect yn cynnwys clirio rhywfaint o’r planhigfeydd coedwigaeth anfrodorol er mwyn peri i’r goedwig hynafol a blodau ac anifeiliaid gwyllt brodorol ddychwelyd.
Bwriad y prosiect yw gwella’n fawr ar brofiad yr ymwelydd er mwyn i’r safle fod yn lle y gellir ei fwynhau i’r eithaf ar ôl i’r gwaith ddod i ben. Bydd hyn yn cynnwys gwella arwyddion, gwybodaeth, dehongli, ynghyd â phrofiad digidol syfrdanol.
Drwy gydol y prosiect bydd modd i chi ddysgu mwy am yr hyn sy’n digwydd drwy gerdded drwy’r safle i ddysgu am y gwaith diweddaraf, ymhle mae pethau arni, a beth sydd wedi cael ei ddarganfod. Bydd sianelau cyfryngau cymdeithasol yr Awdurdod yn dilyn y prosiect yn fanwl hefyd, er mwyn diweddaru ymwelwyr.
Sut allwch chi ddod yn rhan?
Gallwch dderbyn yr holl wybodaeth ddiweddaraf am y prosiect ar y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol er mwyn dod o hyd i’r cyfleoedd ymuno diweddaraf.