I lwytho ffurflenni cais i lawr, dewiswch o’r canlynol.
I gael help i benderfynu pa ffurflen gais sy’n berthnasol i’ch cais, neu i gael cymorth wrth lenwi’r ffurflen gais, cysylltwch â Desg Gymorth y Gwasanaethau Cynllunio.
Cyn cyflwyno eich cais
Cofiwch bydd angen i chi gyflwyno dogfennau ategol yn ogystal â’r ffurflenni cais. Mae pob cais cynllunio a gyflwynir i’r Awdurdod yn cael ei wirio er mwyn sicrhau bod y wybodaeth ofynnol wedi’i chyflwyno i allu prosesu’r cais. Dilynir y weithdrefn wirio hon yn unol â Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012. Ceir rhagor o arweiniad ar y wefan hon.
- Caniatâd cynllunio deiliaid tai
- Caniatâd cynllunio llawn
- Caniatâd cynllunio amlinellol
- Caniatâd ardal gadwraeth
- Materion a gadwyd yn ôl
- Caniatâd adeilad rhestredig
- Caniatâd i arddangos hysbyseb
- Tystysgrif Datblygiad Cyfreithlon
- Hysbysiad ymlaen llaw
- Dileu/amrywio amodau
- Cymeradwyo amodau
- Caniatâd dan Orchmynion Cadw Coed
- Hysbysiad ynghylch gwaith a gynigir ar goed mewn ardaloedd cadwraeth