Cyflwynwyd cais cynllunio (09/03405/OUT) i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er mwyn “Ailddatblygu hen wersyll y fyddin yng Nghwrt y Gollen at ddiben datblygiad defnydd cymysg, cynhwysfawr, sy’n cynnwys datblygiad preswyl (C3), darpariaeth cyflogaeth (B1), meithrinfa ddydd i blant cyn oedran ysgol (D1), cartref gofal preswyl (C2), darpariaeth mannau agored sy’n cynnwys rhandiroedd, perllan gymunedol, darpariaeth chwaraeon a gwaith seilwaith cysylltiedig”. Cofrestrwyd bod y cais yn un dilys ar 10 Gorffennaf 2009. 24.80 hectar yw ardal y safle.
- Mae’r cais ar ffurf amlinellol, gyda’r holl faterion wedi’u cadw yn ôl i’w cymeradwyo yn y dyfodol, ac eithrio mynediad.
- Mae’r cais yn cynnwys datblygiad preswyl o ryw 200 o dai, y bydd 30% ohonynt yn dai fforddiadwy
- Cartref gofal preswyl
- Meithrinfa ddydd
- Cyflogaeth
- Lle agored
- Cyfleusterau chwaraeon (clwb tennis)
- Gwelliannau i seilwaith
- Trawsnewid adeiladau presennol yn gyfleusterau gwaith a chymunedol
- Gwaith biomas i gyflenwi 100% o’r gwres
————————————————————-
Ar 5 Medi 2008, cymeradwyodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol friff datblygu ar gyfer Cwrt y Gollen.
Briff Datblygu wedi’i gefnogi gan yr Awdurdod (Saesneg yn unig)
Mae Cwrt y Gollen yn safle a ddyrannwyd at ddiben “defnydd cymysg” yn y Cynllun Datblygu Unedol (CDU) wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod. Mae Atodiad 9 y CDU yn cynnwys Egwyddorion Datblygu ar gyfer y safle.
Mae’r safle’n gorwedd rhwng Crughywel a Glangrwyne. Mae lleoliad a chyd-destun y safle i’w gweld o’r awyr yn y mapiau canlynol:
Map 1: Crughywel/Safle/Glangrwyne Map 2: Safle/Glangrwyne
Roedd yr Egwyddorion Datblygu’n fan cychwyn ar gyfer Briff Datblygu manylach i’w gymeradwyo gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol fel sail ar gyfer cyflwyno cais cynllunio yn y pen draw. Sefydlodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol Grŵp Llywio i gyflawni’r dasg hon. Mae cofnodion y Grŵp hwn ar gael isod.
Trwy ddwyn ynghyd gynrychiolwyr o’r holl awdurdodau allweddol, y nod yw cydweithio i sicrhau gweledigaeth gytûn ar gyfer datblygu’r safle.
Mae aelodaeth y Grŵp Llywio’n cynnwys
- Cynghorwyr cymuned lleol – o Gyngor Cymuned Bro Grwyne a Chyngor Tref Crughywel
- Cynghorwyr sir o Cyngor Sir Powys a Cyngor Sir Mynwy
- Y tirfeddianwyr a’r ymgynghorwyr
- Aelodau o Awdurdod y Parc Cenedlaethol
- Swyddogion o Awdurdod y Parc Cenedlaethol
- Swyddogion o Gyngor Sir Powys
Yn ogystal, mae’r Grŵp Llywio wedi sefydlu tri is-grŵp i fwrw golwg fanylach ar:
- Ystyriaethau Dylunio;
- Cyfleusterau a Gwasanaethau;
- Effaith ar y Gymuned a Gwella’r Gymuned.
Mae aelodau’r is-grwpiau’n cynnwys cynrychiolwyr o asiantaethau a mudiadau sydd ag arbenigedd penodol ynghyd â buddiannau cymunedol lleol.
Bydd newyddion a diweddariadau’n cael eu rhoi ar y dudalen hon wrth i’r broses fynd yn ei blaen.
Hefyd, gweler http://www.crickhowellinfo.org.uk/cyg/ i gael newyddion ac i weld byrddau negeseuon a ddarperir gan Gyngor Tref Crughywel a Chyngor Cymuned Bro Grwyne.
Dogfennau Cysylltiedig
-
Briff Datblygu wedi’i Gefnogi gan yr Awdurdod (Saesneg yn unig)
-
Cynllun Trefn Dangosol (Saesneg yn unig)