Cwrt y Gollen

Cyflwynwyd cais cynllunio (09/03405/OUT) i Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog er mwyn “Ailddatblygu hen wersyll y fyddin yng Nghwrt y Gollen at ddiben datblygiad defnydd cymysg, cynhwysfawr, sy’n cynnwys datblygiad preswyl (C3), darpariaeth cyflogaeth (B1), meithrinfa ddydd i blant cyn oedran ysgol (D1), cartref gofal preswyl (C2), darpariaeth mannau agored sy’n cynnwys rhandiroedd, perllan gymunedol, darpariaeth chwaraeon a gwaith seilwaith cysylltiedig”. Cofrestrwyd bod y cais yn un dilys ar 10 Gorffennaf 2009.  24.80 hectar yw ardal y safle.

  • Mae’r cais ar ffurf amlinellol, gyda’r holl faterion wedi’u cadw yn ôl i’w cymeradwyo yn y dyfodol, ac eithrio mynediad. 
  • Mae’r cais yn cynnwys datblygiad preswyl o ryw 200 o dai, y bydd 30% ohonynt yn dai fforddiadwy
  • Cartref gofal preswyl
  • Meithrinfa ddydd
  • Cyflogaeth
  • Lle agored
  • Cyfleusterau chwaraeon (clwb tennis)
  • Gwelliannau i seilwaith
  • Trawsnewid adeiladau presennol yn gyfleusterau gwaith a chymunedol
  • Gwaith biomas i gyflenwi 100% o’r gwres

————————————————————-

Ar 5 Medi 2008, cymeradwyodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol friff datblygu ar gyfer Cwrt y Gollen.

Briff Datblygu wedi’i gefnogi gan yr Awdurdod (Saesneg yn unig)

Mae Cwrt y Gollen yn safle a ddyrannwyd at ddiben “defnydd cymysg” yn y Cynllun Datblygu Unedol (CDU) wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod. Mae Atodiad 9 y CDU yn cynnwys Egwyddorion Datblygu ar gyfer y safle.

Mae’r safle’n gorwedd rhwng Crughywel a Glangrwyne.  Mae lleoliad a chyd-destun y safle i’w gweld o’r awyr yn y mapiau canlynol:

Map 1: Crughywel/Safle/Glangrwyne  Map 2: Safle/Glangrwyne

Roedd yr Egwyddorion Datblygu’n fan cychwyn ar gyfer Briff Datblygu manylach i’w gymeradwyo gan Awdurdod y Parc Cenedlaethol fel sail ar gyfer cyflwyno cais cynllunio yn y pen draw.   Sefydlodd Awdurdod y Parc Cenedlaethol Grŵp Llywio i gyflawni’r dasg hon. Mae cofnodion y Grŵp hwn ar gael isod.

Trwy ddwyn ynghyd gynrychiolwyr o’r holl awdurdodau allweddol, y nod yw cydweithio i sicrhau gweledigaeth gytûn ar gyfer datblygu’r safle.

 

Mae aelodaeth y Grŵp Llywio’n cynnwys

  • Cynghorwyr cymuned lleol – o Gyngor Cymuned Bro Grwyne a Chyngor Tref Crughywel
  • Cynghorwyr sir o Cyngor Sir Powys a Cyngor Sir Mynwy
  • Y tirfeddianwyr a’r ymgynghorwyr
  • Aelodau o Awdurdod y Parc Cenedlaethol
  • Swyddogion o Awdurdod y Parc Cenedlaethol
  • Swyddogion o Gyngor Sir Powys

Yn ogystal, mae’r Grŵp Llywio wedi sefydlu tri is-grŵp i fwrw golwg fanylach ar:

  • Ystyriaethau Dylunio;
  • Cyfleusterau a Gwasanaethau;
  • Effaith ar y Gymuned a Gwella’r Gymuned.

Mae aelodau’r is-grwpiau’n cynnwys cynrychiolwyr o asiantaethau a mudiadau sydd ag arbenigedd penodol ynghyd â buddiannau cymunedol lleol.

 

Bydd newyddion a diweddariadau’n cael eu rhoi ar y dudalen hon wrth i’r broses fynd yn ei blaen.

Hefyd, gweler http://www.crickhowellinfo.org.uk/cyg/ i gael newyddion ac i weld byrddau negeseuon a ddarperir gan Gyngor Tref Crughywel a Chyngor Cymuned Bro Grwyne.

Dogfennau Cysylltiedig