Perthynas rhwng Cynlluniau

Cynllun Rheoli’r Parc Cenedlaethol yw’r ddogfen strategol allweddol ar gyfer y Parc Cenedlaethol

Mae nodau, gweledigaeth ac amcanion y Cynllun Datblygu yn cael eu llywio gan y rhai sydd wedi’u cyflwyno yn y Cynllun Rheoli.

Cyd-destun Polisi Cenedlaethol.  Pan fyddant yn paratoi cynllun datblygu, mae’n rhaid i awdurdodau cynllunio lleol hefyd ystyried polisi cynllunio lleol, sy’n cynnwys:-

Polisi Cynllunio Cymru (PPW) 2002, Polisi Cynllunio Mwynau Cymru, Nodiadau Cyngor Technegol (TAN) atodol a Nodiadau Cyngor Technegol Mwynau (MTAN), Cylchlythyron a Datganiadau Polisi Cynllunio Interim y Gweinidog (MIPPS)
ynghyd â strategaethau a chynlluniau cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill.

Y Cynllun Datblygu presennol ar gyfer y Parc Cenedlaethol yw’r Cynllun Datblygu Unedol (CDU) sydd wedi’i gymeradwyo gan yr Awdurdod.

Cynlluniau Datblygu Lleol sy’n dod i’r amlwg (CDLlau)

O dan Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (dolen allanol), mae’r gofyniad am lunio cynllun datblygu wedi newid o Gynllun Datblygu Unedol i Gynllun Datblygu Lleol (CDLl).  Pan fydd wedi cael ei fabwysiadu, bwriedir i’r CDLl ddisodli’r CDU.

Mae’r holl ddogfennau cynllunio a strategol yn cael eu paratoi trwy ymgynghori â’r cyhoedd a grwpiau a mudiadau sydd â buddiant.