Swyddi Gwag

Mynyddoedd ysblennydd, dyffrynnoedd rhewlifol a rhaeadrau tryloyw: nid Awdurdod Lleol cyffredin mo hwn; dyma Awdurdod Parc Cenedlaethol. Os ydych yn poeni am yr amgylchedd, pam na wnewch chi ymuno â ni?


Rheolwr Prosiect

Graddfa 9 £37,938 – £40,476
Contract cyfnod penodol: 2 flynedd
37 awr y wythnos
Dyddiad cau: 10 Chwefror 2025

Pecyn Swydd
Gais am Swydd
Ffurflen Monitro


Deddf Diogelu Data 1998
Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog wedi cofrestru dan Ddeddf Diogelu Data 1998 i gadw rhywfaint o wybodaeth am weithwyr ac ymgeiswyr ar systemau cyfrifiadurol. Mae’r data hyn yn bennaf at ddibenion cyflogau, gweinyddu pensiynau a rhoi gwybod yn statudol. Caiff ffurflenni cais gan ymgeiswyr aflwyddiannus eu cadw am 6 mis ac yna’u dinistrio.  Mae rhagor o wybodaeth am y ffordd y caiff y wybodaeth hon ei rheoli i’w chael yn y Pecyn Swydd.

I wneud cais am swyddi yn Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, gallwch lawrlwytho Ffurflen Gais a Ffurflen Monitro Cydraddoldeb  a’i e-bostio i HR@beacons-npa.gov.uk neu ei hargraffu a phostio’ch cais i’r Adran Adnoddau Dynol, Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, Plas y Ffynnon, Ffordd Cambrian, Aberhonddu, Powys LD3 7HP.

Gais am Swydd
Ffurflen Monitro