Cwynion, Canmoliaeth ac adborth

Mae Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ymrwymedig i ddarparu gwasanaeth o safon uchel a gobeithio eich bod yn fodlon ar y modd yr ydym wedi ymateb i’ch gofynion. Fodd bynnag, os ydych yn anfodlon mewn unrhyw ffordd ar ein perfformiad rhowch wybod inni ar fyrder. Yn yr un modd, mae croeso ichi roi gwybod inni os oes gennych rywbeth da i’w ddweud wrthym gan ein bod yn amcanu at ddysgu a gwella o’r agweddau cadarnhaol a negyddol ar ein perfformiad.

Isod, felly, mae Polisi Cwynion a Chanmoliaeth yr Awdurdod, sy’n rhoi gwybod sut i gyfleu cwyn neu roi adborth cadarnhaol i’r awdurdod. Mae’r Ffurflen Cyfleu Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau ar gael hefyd o Ganolfannau Gwybodaeth yr Awdurdod a Phencadlys yr Awdurdod yn Aberhonddu.

Rydym yn cymryd pob cwyn o ddifrif ac yn deall ar adegau y byddwch o bosibl yn teimlo bod eich profiad yn rhwystredig a byddwn yn gwneud popeth a allwn i ddatrys eich pryderon yn gyflym ac yn effeithiol ble bynnag y bo’n bosibl. Ar rai achlysuron, sy’n eithriadol o brin er hynny, mae’r rhwystredigaeth yma’n arwain at ymddygiad sy’n wrthgynhyrchiol i ddatrys y gŵyn. Er mwyn sicrhau eglurder o ran sut y gallem ymateb mewn achosion o’r fath, mae’r Awdurdod felly wedi llunio polisi sy’n nodi sut y byddwn yn rheoli sefyllfaoedd o’r fath. Mae hyn yn ein galluogi i ymdrin ag achwynwyr yn gyson ac yn deg, gan hefyd reoli disgwyliadau achwynwyr.

Os oes gennych unrhyw adborth ar y polisïau hyn byddwn wrth fy modd yn clywed gennych.

Catherine Mealing-Jones,
Prif Weithredwr

Polisi Pryderon a Chwynion

Ffurflen Cwynion, Canmoliaeth a Sylwadau

Polisi Ymddygiad Afresymol