1. Rhoi cyngor a chymorth
Bydd yr Awdurdod, cyn belled ag y bo hynny’n rhesymol ac yn bosib, yn rhoi i ddarpar ymgeiswyr gyngor a chymorth mewn perthynas â’u ceisiadau am wybodaeth.
Dylai unrhyw un sydd eisiau cyngor ar fynediad at wybodaeth gysylltu â’r Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd wedi’u nodi isod.
2. Gwneud cais am wybodaeth
Rhaid cyflwyno Ceisiadau am Wybodaeth yn ysgrifenedig, gan ddefnyddio un o’r cyfryngau canlynol:
- Drwy’r post, i’r cyfeiriad canlynol:
Y Swyddog Gwasanaethau Corfforaethol
Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
Plas Y Ffynnon,
Ffordd Cambrian
Aberhonddu
Powys
LD3 7HP
- Drwy e-bost
- Neu drwy ddefnyddio’r ffurflen yma
Yr eithriadau i’r gofyniad hwn yw ceisiadau a wneir o dan y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol. Gellir gwneud y rhain ar lafar a bydd y Swyddog yn cofnodi’r manylion gan ddefnyddio Ffurflen Cais Llafar
Rhaid i geisiadau am wybodaeth gynnwys y canlynol:
- Cyfeiriad post neu e-bost ar gyfer anfon ateb iddo
- Digon o fanylion i swyddogion ddeall pa wybodaeth sydd ei hangen – os nad yw cais yn cynnwys digon o fanylion i swyddogion benderfynu pa wybodaeth mae’r ymgeisydd ei heisiau, gellir gofyn am esboniad
Os nad yw person yn gallu cyflwyno ei gais ef neu hi yn ysgrifenedig, bydd yr Awdurdod yn sicrhau bod cymorth priodol yn cael ei roi er mwyn galluogi gwneud cais am wybodaeth. Gan ddibynnu ar yr amgylchiadau, bydd hyn yn cynnwys y canlynol:
Rhoi gwybod iddo bod person arall neu asiantaeth (fel Cyngor Ar Bopeth) yn gallu ei helpu gyda’r cais o bosib, neu wneud cais ar ei ran