Mae sawl ffactor allweddol sy’n golygu bod cynefinoedd yn cael eu colli:
Cynhyrchu bwyd a phren
Mae amaethyddiaeth wedi mynd yn fwy dwys ac mae bywyd gwyllt wedi dioddef oherwydd bod y dirwedd yn newid. Mae’r pwyslais ar gynhyrchu rhagor o fwyd wedi effeithio’n aruthrol ar y cefn gwlad o’n cwmpas. Mae caeau wedi mynd yn fwy drwy gael gwared ar gloddiau a ffosydd fel eu bod yn haws i’w trin a’u cynaeafu. Mae ffiniau afonydd wedi’u draenio i greu tir mwy cynhyrchiol. Mae gwrteithiau wedi newid cemeg naturiol y pridd gan adael i gnydau masnachol dyfu’n gyflym. Fodd bynnag, mae hyn wedi creu priddoedd nad ydynt yn addas bellach ar gyfer llawer o blanhigion cynhenid. Mae peiriannau newydd yn ein galluogi i ffermio mewn mannau nad oeddent yn cael eu hystyried yn fannau cynhyrchiol yn flaenorol. Mae porfeydd wedi’u cyfoethogi fel bod rhagor o dda byw’n gallu pori mewn caeau o laswellt byr a thrwchus ond prin iawn yw amrywiaeth y rhywogaethau neu lecynnau i ddenu pryfed ac adar.
Yn ogystal â chynhyrchu bwyd, defnyddir rhagor o dir i gynhyrchu pren a deunyddiau eraill fel cotwm. Er bod y rhain yn adnoddau naturiol adnewyddadwy, fe’u tyfir yn ddwys yn yr un modd â chnydau bwyd. Mae hyn yn creu cynefin gydag un math o rywogaeth yn unig gan nad yw’n cynnwys planhigion eraill. Yn y Parc Cenedlaethol, ceir clystyrau trwchus o gonwydd sydd wedi’u plannu’n agos at ei gilydd. Mae hyn wedi creu coetiroedd sydd heb olau, coed marw, coed o wahanol oedrannau na rhywogaethau gwahanol sy’n nodwedd o’n coetiroedd cynhenid amrywiol.
Datblygiad
Yn ogystal ag amaethyddiaeth, mae adeiladu ffyrdd, datblygiadau diwydiannol a masnachol a thai wedi gorchuddio ardaloedd a arferai fod yn llawn bywyd gwyllt ar un adeg â choncrid, brics a tharmac. Mewn sawl achos, adeiladwyd datblygiadau ar rai o’n hardaloedd bywyd gwyllt pwysicaf, fel cymoedd afonydd gwastad a hygyrch neu dir amaethyddol gwael. Wrth i ddinasoedd, trefi a phentrefi ehangu, mae’r bylchau rhwng cynefinoedd naturiol wedi cynyddu gan ynysu rhywogaethau mewn llecynnau bychain. Mae rhannu tiroedd fel hyn yn atal rhywogaethau rhag symud o un ardal i’r llall, felly mae poblogaethau o rywogaethau wedi bod o dan fwy o fygythiad.
Llygredd a newidiadau
Gellir colli cynefinoedd hyd yn oed os na chânt eu datblygu neu eu ffermio. Mae afonydd yn gynefinoedd amrywiol sy’n cynnwys nifer o wahanol amgylchiadau, fel dŵr dwfn a bas neu ddarnau cyflym ac araf o ddŵr. Er efallai fod y dŵr dal yno, mae llawer o afonydd yn y DU wedi’u sythu, eu dyfnhau neu eu hamgylchynu gan waliau i atal llifogydd. Mae hyn wedi dinistrio amrywiaeth naturiol yr amgylchedd. Mae llygredd diwydiant, amaethyddiaeth ac ardaloedd trefol yn aml yn cael ei olchi i mewn i afonydd gan effeithio ar gemeg y dŵr. Gall hyn wenwyno bywyd gwyllt yn uniongyrchol yn ogystal â pheri i’r afon fod yn anaddas i rai rhywogaethau. Gall llygrwyr leihau faint o ocsigen sydd yn y dŵr a denu gormod o algâu, neu gall gwenwynau ymhél yn y gwaddod ac mae’n cymryd blynyddoedd i’w olchi allan.