Mae gan drefi a phentrefi Croeso i Gerddwyr rywbeth arbennig i gynnig i gerddwyr.
Mae sicrhau statws Croeso i Gerddwyr yn dod â llawer o fuddion ac yn helpu i gyflawni llawer o bethau. Dyma rai enghreifftiau:
- dod â chymunedau at ei gilydd – busnesau, grwpiau gwirfoddol ac atyniadau i dwristiaid.
- cryfhau enw da tref fel lle i ymwelwyr ddod i fwynhau’r awyr agored, gan ddod â buddion defnyddiol i’r economi leol.
- sicrhau bod llwybrau troed a chyfleusterau i gerddwyr yn cael eu gofalu amdanynt a’u cadw mewn cyflwr da. Bydd pobl leol ac ymwelwyr yn cael budd o hyn.
- cyfrannu at gynlluniau twristiaeth lleol a strategaethau adfywio.
- rhoi cyfle i gymunedau ryngweithio’n rheolaidd â threfi Croeso i Gerddwyr eraill, wrth rannu profiadau a thrafod syniadau newydd.
Yma ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, mae cymunedau y Gelli, Talgarth a Chrucywel wedi ennill y statws hwn.
Cynhaliwyd cyfarfodydd cyhoeddus agored i bobl leol yn y tair tref, er mwyn cyflwyno a chodi ymwybyddiaeth am y cynllun. Yn y cyfarfodydd, gwelwyd bod gan y cymunedau ddiddordeb a brwdfrydedd mawr a chynigodd gwirfoddolwyr o’r tair tref helpu i ddatblygu’r cysyniad.
Y cam nesaf oedd i bob cymuned sefydlu grŵp llywio gyda chyfansoddiad er mwyn dechrau gweithredu eu syniadau. Roedd arian ar gael drwy Bartneriaeth Gwlad Offa a ddarperir gan yr Undeb Ewropeaidd a chyllid gan Lywodraeth Cymru.
Cynhaliodd Crucywel eu cyfarfod grŵp llywio cyntaf ar ddydd Iau 12 Ebrill 2012 a chael eu cymeradwyo ym mis Hydref 2012. Ar hyn o bryd mae Croeso i Gerddwyd Crucywel yn datblygu llyfryn o deithiau cerdded lleol ac mae disgwyl i’r llyfryn fod ar werth ddechrau Gorffennaf eleni. Os hoffech chi fod yn rhan o’r grŵp llywio neu os ydych yn meddwl y gallech helpu mewn rôl gefnogi, unai drwy gerdded y rhwydwaith o lwybrau cerdded lleol a sôn wrth y grŵp am unrhyw broblemau, neu os oes gennych ddealltwriaeth dda o wefannau cymdeithasol a’ch bod yn gallu helpu’r grŵp i hyrwyddo eu gwaith a marchnata Crucywel fel lleoliad cerdded drwy’r flwyddyn ayb., cysylltwch ag Elsa Cleminson, Cadeirydd y grŵp.
Talgarth oedd y cyntaf o’r tair tref i gael eu cymeradwyo ym mis Awst 2012. Ar hyn o bryd maen nhw’n gweithio’n galed i gwblhau’r rhaglen ar gyfer Gŵyl Gerdded flynyddol gyntaf Talgarth, sy’n cael ei chynnal o ddydd Gwener y 3ydd hyd at ddydd Llun 6ed Mai 2013. Mae gwefan Gŵyl Gerdded Talgarth yn cael ei datblygu ar hyn o bryd ac mae’r grŵp yn gobeithio bydd y system archebu ar-lein ar waith erbyn Ebrill 1af, neu’n fuan wedi hynny. Yn y cyfamser rhowch eich cyfeiriad e-bost ar dudalen dros-dro y wefan er mwyn derbyn y newyddion diweddaraf am yr ŵyl. Hefyd, ewch i’w tudalen Facebook a hoffi’r dudalen! Os ydych chi’n meddwl y gallech chi fod o gymorth i Grŵp Croeso i Gerddwyr ‘Porth at y Mynyddoedd Duon’ Talgarth neu wirfoddoli unrhyw bryd i hyrwyddo’r ŵyl, cysylltwch â Nicola Willis, Cadeirydd y grŵp.
Cafodd y Gelli eu cymeradwyo ym mis Hydref 2012 hefyd wrth iddyn nhw gynnal eu hail ŵyl gerdded a oedd yn llwyddiant ysgubol. Mae’r dyddiadau ar gyfer gŵyl eleni wedi’u trefnu eisoes, sef 10 i 14 Hydref 2013 ac mae rhaglen wych o deithiau cerdded ar y gweill yn barod. Tarwch olwg ar wefan drawiadol Hay Walking i gael mwy o wybodaeth a’r newyddion diweddaraf am yr ŵyl. Os ydych chi’n meddwl y gallech chi helpu ymdrechion Grŵp Twristiaeth y Gelli i gynnal y statws Croeso i Gerddwyr a gwirfoddoli unrhyw bryd i helpu gyda’r ŵyl gerdded, cysylltwch ag Anna Heywood neu Alison O’Grady, a fydd yn falch iawn o glywed gennych chi.
Yn Sir Fynwy, cafodd y Fenni ei gymeradwyo ym mis Chwefror eleni. Y Fenni yw’r 100fed dref i ymuno â’r rhwydwaith ledled y Deyrnas Unedig. Mae cynlluniau ar y gweill i ddathlu hyn dros y Pasg gyda digwyddiad arbennig. Os hoffech chi gael rhagor o wybodaeth neu gefnogi gwaith grŵp y Fenni, cysylltwch â’r Cadeirydd Ruth Coulthard, sydd ar hyn o bryd yn aelod o’r Pwyllgor Cenedlaethol hefyd.
Mae adventa hefyd yn cydweithio’n agos â Chas-gwent a Threfynwy sydd hefyd wedi cael eu cymeradwyo. Am fwy o wybodaeth ynghylch y cynlluniau yn y trefi hynny, cysylltwch â Zara Bligh.
Am ragor o wybodaeth am y cynllun ar lefel y Deyrnas Unedig, ewch i wefan cenedlaethol Croeso i Gerddwyr