Pecyn Cymorth Gwyliau Cerdded

RHAGYMADRODD

Mae’r pecyn cymorth hwn yn rhoi cyngor ar gynllunio, trefnu a rhedeg gwyliau cerdded.  Mae’n ceisio’ch helpu os ydych chi wrthi’n trefnu gŵyl am y tro cyntaf, neu os hoffech chi wella gŵyl sydd eisoes yn bod.  Mae’r pecyn wedi’i drefnu’n adrannau, ac mae gan bob adran:

  1. Rhagymadrodd
  2. Gwybodaeth ar gyfer gwyliau newydd a gwyliau presennol
  3. Naratif (a darluniau fel y bo’n briodol)
  4. Rhestrau gwirio
  5. Enghreifftiau o astudiaethau achos
  6. Blychau cynghorion
  7. Ffynonellau rhagor o wybodaeth

Mae pob gŵyl yn wahanol, felly fe fyddwch chi am ddatblygu’ch ffordd eich hun o wneud pethau.  Serch hynny, rydyn ni wedi cynnwys dulliau gwahanol sydd wedi’u defnyddio gan wyliau eraill a allai fod o gymorth.  Rydyn ni wedi cynnwys rhestrau gwirio hefyd, a allai fod yn fuddiol, ynghyd â chynghorion – nodiadau atgoffa a phethau a allai fod yn newydd ichi!

Gallwch ddarllen y pecyn cymorth o glawr i glawr, neu droi’n syth at y pwnc sydd o ddiddordeb ichi.  Dyma’r adrannau:

  1. Pam rydych chi am ddechrau gŵyl gerdded?
  2. Sut beth fydd eich gŵyl?
  3. Dechrau gŵyl gerdded
  4. Meddwl am gynllunio
  5. Pethau i’w hystyried yn ystod yr ŵyl
  6. Ar ôl yr ŵyl

Rydyn ni’n gobeithio diweddaru’r pecyn cymorth wrth i drefnwyr gwyliau ddod o hyd i ffyrdd newydd o weithio, felly gofalwch anfon aton ni i roi gwybod am eich profiadau chi.

Mae’r pecyn cymorth wedi’i ddatblygu gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog a’i bartneriaid Partneriaeth Datblygu De Kerry a Chyngor Sir Mayo.  Cafodd y gwaith ei ariannu gan Rural Alliances, a gefnogir gan raglen Interreg IVB Gogledd-orllewin Ewrop yr Undeb Ewropeaidd a Rhaglen Llywodraeth Cymru, Arian Cyfatebol a Dargedir

‘Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan raglen Interreg IVB Gogledd-orllewin Ewrop yr Undeb Ewropeaidd a Rhaglen Llywodraeth Cymru, Arian Cyfatebol a Dargedir’