Rhagymadrodd i’r adran
Felly, dyma chi wedi penderfynu bod angen gŵyl gerdded, wedi penderfynu ar un neu ragor o nodau iddi ac wedi’ch bodloni’ch hun fod gan yr ardal a’r gymuned y gallu i ymdopi â gŵyl. Sut mae dechrau arni?
Bydd angen ichi sefydlu rhyw fath o grŵp i reoli’r ŵyl a sefydliad i’w rhedeg. Gall fod yn gorff sydd eisoes yn bod: mae llawer o wyliau’n cael eu rhedeg gan grwpiau Walkers are Welcome, rhai gan gymdeithasau twristiaeth neu fusnes. Os nad oes grŵp yn barod, gall fod rhaid ichi greu un. Does dim angen cael cyfansoddiad o reidrwydd, ond fe fydd arnoch chi neu un o’ch partneriaid angen cyfeiriad, ffôn ac ebost er mwyn ymdrin ag ymholiadau ac archebion a chyfrif banc os ydych yn mynd i godi tâl am deithiau cerdded a thalu am bethau fel llogi neuadd yn ganolfan, llogi offer, talu am waith argraffu, cyhoeddusrwydd, etc. Felly, os nad oes cyfansoddiad gennych yn barod ac nad ydych yn creu sefydliad ffurfiol, bydd angen yn gyntaf ichi ddod o hyd i bartner neu bartneriaid a fydd yn gwneud hyn ar eich rhan. Gallai fod yn awdurdod lleol, cyngor tref, grŵp cerdded, etc. Cofiwch y bydd angen talu am wybodaeth a hysbysrwydd cyn ichi gael unrhyw ffioedd archebu, felly bydd rhaid ichi ystyried llif arian.
Meddyliwch am y sgiliau sydd gennych yn barod a’r rhai y bydd angen dod â nhw i mewn. Fel yn achos unrhyw dîm, bydd angen ‘arweinwyr a gweithwyr’, meddylwyr strategol a phobl sy’n dda mewn manylion. Gofalwch roi’r tasgau iawn i’r bobl iawn a mynnwch fwy nag un math o weithiwr!
Hybwch eich syniad a siaradwch â phobl er mwyn eu tynnu i mewn. Siaradwch â’ch cyngor, eich grŵp cerdded, eich warden cefn gwlad, eich busnesau twristiaeth lleol. Esboniwch fanteision tebygol yr ŵyl i roi rheswm i’r darpar bartneriaid gymryd rhan. Defnyddiwch sianeli cyfathrebu sydd eisoes ar gael: gwefannau cymunedol, cylchlythyrau, cylchlythyrau ebost, etc. Bydd angen ichi ganiatáu digon o amser ar gyfer hyn; gofalwch eich bod yn cyrraedd cynulleidfa eang a bod gan bobl ddigon o amser i weld eich gwybodaeth ac ymateb. Efallai y byddwch yn teimlo eich bod yn gwastraffu amser, ond dyw hynny ddim yn wir. Bydd amser sy’n cael ei dreulio ar ymgynghori ar yr adeg hon yn talu ar ei ganfed wrth i’r prosiect ddatblygu.
Trefnwch gyfarfod a gwahodd pawb sydd â diddordeb i gyfrannu eu syniadau. Peth da yw meddwl am amrywiaeth eang o bethau ar yr adeg hon. Gofalwch gofnodi syniadau pawb a gwneud penderfyniadau am y ffordd ymlaen. Mae hi hefyd yn bwysig cadarnhau nod neu nodau’r ŵyl yn y cyfnod hwn, fel bod pawb yn glir beth yw diben yr ŵyl a pham mae’n bwysig.
Mynegwch y canlyniadau: nodau’r ŵyl, cynigion ar gyfer yr ŵyl, eich strwythur ar gyfer datblygu’r ŵyl, i bawb sydd wedi cael eu cynnwys mor belled. Byddwch yn dryloyw ac esboniwch pam rydych chi wedi penderfynu gwneud rhai pethau ac nid eraill. Mae hyn yn bwysig am sawl rheswm:
- Mae’n ei gwneud yn hawdd i bartneriaid, cefnogwyr a gwirfoddolwyr weld pam y dylen nhw’ch cefnogi
- Mae’n helpu’r sefydliad i ganolbwyntio
- Mae’n rhoi sail ar gyfer gwerthuso’ch effaith
- Mae’n sail ar gyfer gwerthuso cyfleoedd a chynigion datblygu wrth iddyn nhw godi
Does dim ots pa mor fawr neu fach fydd eich gŵyl, bydd angen dod o hyd i adnoddau ariannol i dalu am wybodaeth, cyhoeddusrwydd, yswiriant ac agweddau ar redeg yr ŵyl. Drwy feddwl am hyn yn gynnar gallwch osgoi argyfwng yn nes ymlaen. Meddyliwch pwy allai roi cymorth a siaradwch â nhw yn gyntaf. Oes yna grantiau i grwpiau cymunedol? Allech chi roi cyfle hysbysebu a chyfle noddi i fusnesau ac eraill? (cross ref to xxx)
Hoffech chi wneud eich digwyddiad yn amgylcheddol gynaliadwy? Os felly, gallech wneud hyn yn un o’ch nodau a datblygu polisïau neu ffyrdd i weithio a fydd yn lleihau’ch effaith ar yr amgylchedd.
Mae’n bwysig cysylltu â thirfeddianwyr yn y dyddiau cynnar. Os byddwch yn codi tâl am eich teithiau cerdded, rydych chi dan rwymedigaeth i wneud hyn ac mae’n gall sicrhau bod y tirfeddianwyr yn gefnogol beth bynnag. Bydd rhai yn awyddus i helpu a gallwch nodi problemau posibl a chynllunio er mwyn eu hosgoi.
Bydd arnoch angen yswiriant atebolrwydd cyhoeddus. Mae yswiriant o’r fath gan fudiadau cerdded, awdurdodau lleol ac eraill yn barod ac mae’n bosibl y gallen nhw gynnwys gŵyl gerdded yn yr yswiriant sydd ganddyn nhw eisoes. Dylai Cymdeithas y Cerddwyr (contact details) neu’ch mudiad gwasanaethau gwirfoddol lleol allu rhoi cyngor am ble i gael yswiriant priodol. Os oes gennych unrhyw amheuon, dylech ofyn am gyngor cyfreithiol.
Ystyriwch sut i sicrhau bod eich gŵyl chi’n amlwg: beth fydd yn ei gwneud yn arbennig? Er enghraifft rhoi thema leol iddi, ei chysylltu â chynhyrchion lleol, etc.
Peidiwch bod ofn gofyn am help. Mae digon o brofiad ar gael ac mae llawer o drefnwyr gwyliau’n fodlon rhannu eu profiad.
Yn olaf, ac yn bwysicaf mae’n debyg – gofalwch fod pawb yn cael hwyl!
Rhestrau gwirio
Dod o hyd i Gorff i Redeg yr Ŵyl
- Os ydych yn gorff sydd â chyfansoddiad yn barod, sut byddwch chi’n rheoli gŵyl gerdded o fewn eich strwythurau presennol (rheoli, bancio, cyfathrebu, gwirfoddolwyr, yswiriant, etc?
- Os nad ydych, oes sefydliadau addas a allai helpu gyda chyllid, yswiriant, etc?
- Os nad oes, allech chi recriwtio pobl gymwys sy’n fodlon ysgwyddo’r cyfrifoldebau hyn?
Camau tuag at Ddechrau Gŵyl
- Siaradwch â phartneriaid, cefnogwyr, rhanddeiliaid a thirfeddianwyr posibl
- Rhowch gyhoeddusrwydd i’ch syniad drwy’r gymuned
- Cynhaliwch ddigwyddiad i’w drafod
- Cytunwch sut beth fydd eich gŵyl chi
- Trefnwch strwythur eich sefydliad
Enghreifftiau o astudiaethau achos
Cafodd Gŵyl Gerdded Gogledd y Pennines ei chynnal am y tro cyntaf yn 2013. Doedd gan y trefnwyr ddim llawer o brofiad o drefnu digwyddiadau, felly dyma ofyn am help. Rhoddodd trefnwyr Gŵyl Gerdded Haltwhistle gerllaw gyngor am sut i drefnu a rhedeg yr ŵyl ac ymatebodd Cyngor Sir Durham â gwybodaeth am gyfres o deithiau cerdded oedd eisoes ar gael, manylion cysylltu arweinwyr posibl a nifer o ffurflenni, er enghraifft asesiadau risg, a systemau a oedd eisoes ar gael.
Mae pedair gŵyl gerdded yn ne’r Alban yn cyfarfod â’i gilydd am ddiwrnod i rannu profiadau a dysgu gan ei gilydd. Dyma ffordd dda i rwydweithio a chreu cysylltiadau y gallwch eu ffonio neu gyfarfod â nhw wedyn i ofyn cwestiynau.
Cynghorion
Gofynnwch am gyngor gan ŵyl sydd wedi ennill ei phlwyf. Bydd rhai yn eich gweld fel cystadleuwyr, ond bydd eraill yn gweld y darlun ehangach gan gydnabod gwerth cynnal nifer o wyliau yn agos at ei gilydd ar adegau gwahanol yn y flwyddyn.
Ffynonellau rhagor o wybodaeth
Mae Cyfeillion Bro’r Llynnoedd wedi cyhoeddi canllawiau defnyddiol am gydweithio â ffermwyr a thirfeddianwyr wrth reoli digwyddiadau. Gallwch lawrlwytho’r rhain ‘yma.
Mae Cyfeillion Bro’r Llynnoedd yn llunio canllawiau hefyd ar sut i sicrhau bod eich digwyddiad yn un ‘cynaliadwy’ (yn yr ystyr amgylcheddol). Lawrlwythwch y canllawiau yma